Tywysog Charles yn ymweld â ffatri brechlyn Covid-19 yn Wrecsam

Tywysog Charles yn ymweld â ffatri brechlyn Covid-19 yn Wrecsam
Mae’r Tywysog Charles wedi ymweld â ffatri sy’n cynhyrchu brechlyn Rhydychen/AstraZenaca er mwyn diolch i’r staff am eu gwasanaeth yn ystod y pandemig.
Mae ffatri Wockhardt yn Wrecsam wedi bod yn gyfrifol am y camau terfynol o lenwi’r brechlyn cyn iddo gael ei ddosbarthu i’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd, mae 300 miliwn dos o’r brechlyn yn cael eu cynhyrchu ar y safle, gan olygu 150,000 dos y dydd dros y misoedd diwethaf.
Mae’r cwmni, sy’n cyflogi dros 500 o bobl yn y ffatri yn Wrecsam, yn un o brif gyflenwyr fferyllol y GIG.
Mae ganddynt gytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig tan fis Awst 2022.
Fe ymwelodd y Tywysog â’r labordy sy’n rheoli ansawdd y brechlynnau.
Cafodd ei dywys o gwmpas yr adran gan Maggie Mutute, sy’n dadansoddi’r ansawdd yno.
“Roedd e’n sypreis hyfryd ac yn garedig iawn”, meddai ar ôl dangos ei gwaith iddo.
“Mae gweithio ar y brechlyn yn ein cadw ni ar flaenau’n traed. Rydym yn achub y byd mewn ffordd. Mae’n braf gallu bod yn rhan o hynny".
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Wockhardt UK, Ravi Limaye, roedd yr ymweliad yn “foment anferth i’r tîm i gyd".
“Mae’n braf cael cydnabyddiaeth o’n hymdrech dros y flwyddyn a hanner diwethaf i gael y brechlynnau i ganolfannau ar draws y DU.
“Roedd y Tywysog yn ddiolchgar iawn i ni ac yn gweld y broses yn hynod ddiddorol", ychwanegodd.
Fe wnaeth Charles ddadorchuddio plac i nodi’r achlysur ac fe gafodd draig goch wydr wedi’i chomisiynu gan artist lleol, David Pryce-Jones, fel anrheg am ymweld.
Lluniau: ITV Cymru