Llywodraeth Cymru am roi dros £200m yn rhagor o gymorth i Faes Awyr Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod eisiau rhoi hyd at £206m yn rhagor o gymorth i Faes Awyr Caerdydd.
Cafodd y Maes Awyr ei werthu i Lywodraeth Cymru yn 2013 am £52m, ond mae wedi gwneud colledion ariannol sylweddol ers hynny, gan gynnwys colled o £4.5m yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates eu bod nhw’n gobeithio datblygu llwybrau newydd ac y byddai hynny yn cynyddu nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r maes awyr bob blwyddyn i ychydig dros dau filiwn yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
Daw hyn wedi i’r maes awyr weld cwymp yn nifer y defnyddwyr yn ystod pandemig Covid-19.
Bryd hynny fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth drwy becyn achub £42.6m ac ailstrwythuro tair blynedd.
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Ken Skates eu bod nhw bellach wedi bod yn trafod gyda thîm arwain y maes awyr i “ddatblygu strategaeth tymor hir” wrth i’r pecyn cymorth ddod i ben.
“Mae'r mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn ystod ac ar ôl y pandemig er mwyn diogelu'r Maes Awyr wedi bod yn llwyddiannus ond maent wedi gadael y Maes Awyr mewn sefyllfa lle nad oes ganddo'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i sbarduno'r datblygiadau economaidd hyn,” meddai Ken Skates.
“Er mwyn sicrhau y gall rhanbarth De Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi cyllid buddsoddi ychwanegol hirdymor i’r maes awyr ac yn ceisio cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer pecyn o hyd at £206m dros gyfnod o ddeng mlynedd.”
‘Meddwl agored’
Ychwanegodd Ken Skates eu bod nhw’n agored i weld y sector breifat yn cymryd perchnogaeth o Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol.
Dywedodd eu bod nhw “yn agored i ystyried modelau perchenogaeth gwahanol ar gyfer y Maes Awyr”.
Fe allai hynny “gynnwys trefniadau â'r sector preifat neu bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus,” medden nhw.
“Rydym yn cadw meddwl agored ynghylch sut y bydd y Maes Awyr yn cael ei berchenogi yn y dyfodol, ar yr amod y gallwn fod yn hyderus ei fod yn manteisio i'r eithaf ar ei botensial fel modd i sicrhau twf economaidd cynaliadwy a lleihau anghydraddoldeb yn rhanbarth De Cymru,” meddai.