Tonysguboriau: Teyrnged teulu i fenyw gafodd ei saethu'n farw
Mae teulu Joanne Penney, 40 oed, fu farw ar ôl cael ei saethu yn Nhonysguboriau ddydd Sul wedi cyhoeddi teyrnged iddi.
Mae pum person a gafodd eu harestio ar amheuaeth o'i llofruddio yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y teulu mewn datganiad brynhawn dydd Gwener: “Rydym wedi ein syfrdanu gan golled drasig ein hanwyl Joanne. Roedd hi'n ferch, mam, chwaer, a nith – roedd hi’n cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod.
"Ni wnawn fyth anghofio ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu.
“Yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, rydym yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru a dechrau prosesu’r golled annirnadwy hon.
"Gwerthfawrogwn gefnogaeth a chydymdeimlad y gymuned a gofynnwn yn garedig i’n teulu gael lle i alaru mewn heddwch.
“Byddem yn ddiolchgar pe gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth rannu hyn gyda thîm ymchwilio’r heddlu.
“Diolch am barchu ein dymuniadau.”