Dyn wedi marw ar fferm ger Caergybi ym Môn
Mae Heddlu'r Gogledd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth dyn ar fferm yn ardal Caergybi o Ynys Môn.
Digwyddodd y farwolaeth ar fferm yn Rhydwyn yng ngogledd orllewin yr ynys ddydd Mercher.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd yr heddlu eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r farwolaeth ar ôl cael eu galw am 12:03 ddydd Mercher yn dilyn adroddiad am "ddigwyddiad" ar y fferm.
"Yn anffodus bu farw dyn a gafodd anafiadau yn y digwyddiad", meddai datganiad yr heddlu.
Mae ei berthynas agosaf a’r Crwner wedi cael gwybod, ac mae'r heddlu'n gweithio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sefydlu amgylchiadau'r farwolaeth.
Wrth ymateb i'r newyddion, dyweodd y cynghorydd Llio Angharad Owen, sy'n cynrychioli'r ardal ar y cyngor sir: "Hoffwn rannu cydymdeimlad llwyr gyda theulu a ffrindiau'r sawl sydd wedi cael eu heffeithio yn y drychineb yma, sydd yn sioc enfawr i'r gymuned.
"Rwy'n diolch i'r gymuned am barchu sensitifrwydd a difrifoldeb y digwyddiad, rwy'n gwybod bod hwythau yn rhannu cydymdeimlad.
"Mae'n bwysig diolch hefyd i'r gwasanaethau brys am eu hymateb prydlon."