Newyddion S4C

Carcharu dyn o Gemaes am stelcian a cham-drin domestig

Zachary Engen

Mae dyn 34 oed wedi ei garcharu am stelcian yn ogystal ag ymosod ar ei gyn-bartner ym Môn. 

Cafodd Zachary Engen o Gemaes ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher ar ôl cyfaddef i stelcian ac achosi gwir niwed corfforol.

Cafodd hefyd orchymyn i beidio â chysylltu gyda'i gyn bartner am 20 mlynedd.

Ar ôl dod â'r berthynas i ben, dechreuodd stelcian ei gyn bartner a byddai'n ei dilyn ar deithiau cerdded gwledig, yn eistedd y tu allan i'w gweithle ac unwaith fe wnaeth ei dilyn 350 milltir pan oedd hi'n ymweld â ffrind.

Ar fwy nag un achlysur, ymosododd arni’n dreisgar wrth iddi gysgu, a byddai hefyd yn bygwth niweidio ei hun er mwyn cael ei sylw.

Cyfaddefodd Engen ei fod wedi achosi gwir niwed corfforol ac ymddygiad o reoli a gorfodi, yn ogystal â stelcian.

Fe wnaeth y dioddefwr ddioddef blynyddoedd o gam-drin corfforol a meddyliol, gyda Engen yn rheoli’r hyn y gallai ei wneud, ei hynysu oddi wrth deulu a ffrindiau ac achosi iddi fyw mewn ofn trais.

Byddai hi'n cuddio cleisiau a oedd ar ei hwyneb a’i chorff gyda cholur trwm yn rheolaidd, a stopiodd fynd allan yn y pen draw.

Cafodd Engen ei arestio ym mis Chwefror 2023.

'Dewr'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Rwy’n canmol y dioddefwr am fod yn ddigon dewr i adrodd am ymddygiad treisgar, ymosodol, a bygythiol Engen.

“Mae stelcian yn drosedd sy’n mynd at wraidd trais yn erbyn menywod a merched, gan ddileu eu teimlad o ddiogelwch.” meddai.

“Mae’n ddyn peryglus wnaeth ei gadael i fyw mewn ofn, sydd wedi cael effaith ddinistriol ar ei bywyd.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn caniatáu i’r dioddefwr symud ymlaen, gan wybod nad yw bellach yn fygythiad i’w diogelwch.”

Ychwanegodd: “Rydym yn cymryd pob adroddiad o gam-drin domestig a stelcian o ddifrif a byddwn yn cefnogi dioddefwyr drwy gydol unrhyw ymchwiliad.

“Os ydych chi, neu wedi bod, yn ddioddefwr stelcian neu gam-drin domestig, peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun. Rhowch wybod i ni ar-lein neu drwy ffonio 101, a ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.