Newyddion S4C

Dau newid i dîm Cymru yn erbyn Lloegr

13/03/2025
Joe Roberts

Mae prif hyfforddwr dros-dro Cymru Matt Sherratt wedi gwneud dau newid i’w dîm i wynebu Lloegr yn y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Oherwydd anaf i fawd Tom Rogers mae Joe Roberts yn cymryd ei le ar yr asgell. Mae Roberts yn dechrau yno am y tro cyntaf yn dilyn ymddangosiadau oddi ar y fainc yn erbyn Iwerddon a’r Alban.

Fe chwaraeodd Roberts 71 munud o’r golled ym Murrayfield ddydd Sadwrn diwethaf gan gyfrannu i’r symudiadau arweiniodd at ddau o bedwar cais Cymru.

Mae Aaron Wainwright yn dechrau fel blaenasgellwr gan ymuno â Jac Morgan a Taulupe Faletau yn y rheng ôl am y tro cyntaf ers i Gymru guro Awstralia o 40-6 yng Nghwpan y Byd ym mis Medi 2023.

Mae Sherratt wedi gwrthod y temtasiwn o ddechrau gyda’r bachwr Dewi Lake er iddo wneud argraff oddi ar y fainc yn y golled yn erbyn yr Alban.

Dyma fydd gêm olaf Sherratt wrth y llyw ar ôl iddo gamu i mewn ar ôl i Warren Gatland adael ei swydd fel prif hyfforddwr ar ôl i Gymru golli yn erbyn Iwerddon a'r Eidal ar ddechrau'r bencampwriaeth.

Mae Cymru wedi colli pob un o’u pedair gêm yn y Chwe Gwlad eleni ac yn ceisio osgoi colli 17fed gêm brawf yn olynol a’r 11eg yn y Chwe Gwlad.

Dywedodd Sherratt: “Mae Cymru Lloegr bob amser yn achlysur arbennig ac ry' ni'n gwybod y bydd yn awyrgylch anhygoel yn Stadiwm Principality.

“Ry' ni'n gyffrous i orffen ein hymgyrch gartref ac yn edrych i roi ein perfformiad gorau ar y cae ddydd Sadwrn."

Tîm Cymru v Lloegr

15. Blair Murray (Scarlets – 7 cap)
14. Ellis Mee (Scarlets – 2 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 7 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 11 cap)
11. Joe Roberts (Scarlets – 4 cap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 41cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 63 cap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 53 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 55 cap)
3. WillGriff John (Sale Sharks – 4 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 40 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 22 cap)
6. Aaron Wainwright (Dreigiau – 56 cap)
7. Jac Morgan (Gweilch – 22 cap) – capten
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 107 cap)

Eilyddion

16. Dewi Lake (Gweilch – 19 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 39 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 13 cap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 5cap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 26 cap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 8 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 10 cap)
23. Nick Tompkins (Saracens - 40 cap)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.