Syr Keir Starmer i ddiddymu'r corff NHS England
Maeâr Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi ei fod yn cael gwaraed ar y corff NHS England.
Dywedodd Syr Keir Starmer ar ymweliad â Hull ddydd Iau y bydd NHS England yn cael ei ddiddymu er mwyn âtorri biwrocratiaethâ a dod â'r gwasanaeth iechyd âyn Ă´l i reolaeth ddemocrataiddâ.
Dywedodd Keir Starmer fod gan NHS England "haenau beichus o fiwrocratiaeth heb unrhyw linellau atebolrwydd clir".
Maeâr cyhoeddiad wedi denu ymateb chwyrn gan undebau gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd undeb Unsain fod y cyhoeddiad yn âshambolaiddâ a bod angen "miloedd yn fwy o staff" ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr a chymorth i gadw gweithwyr.
Fe sefydlwyd NHS England yn 2012 ar Ă´l ad-drefnuâr gwasanaeth iechyd dan y Ceidwadwyr.
Dywed ysgrifennydd cyffredinol Unsain Christina McAnea bod y cyhoeddiad âyn ergydâ i weithwyr.
Dywedodd: âDdiwrnodau yn Ă´l fe ddysgon nhw y byddai eu niferoedd yn cael eu torri iâr hanner, nawr maen nhwân darganfod y bydd eu cyflogwr yn peidio â bodoli.
"Nid yw'r ffordd y mae'r newyddion am hyn wedi'i drin yn ddim llai na shambolig. Mae'n siĹľr y gallai fod wedi cael ei reoli mewn ffordd fwy cydymdeimladol."
Llun: Wochit