
Lansio rhaglen therapi CBT ar-lein ar gyfer gorbryder drwy'r Gymraeg
Mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi lansio rhaglen therapi digidol ar gyfer gorbryder yn y Gymraeg.
Dyma'r drydedd raglen therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) i'r GIG ei chyfieithu i'r Gymraeg.
Dywedodd Fionnuala Clayton o'r GIG fod darparu therapi dwyieithog yn "flaenoriaeth allweddol" yng Nghymru.
"Mae darparu therapi dwyieithog yn flaenoriaeth allweddol i ni ac mae wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i'r gwasanaeth barhau i dyfu," meddai.
"Mae'n gallu bod yn anodd bod yn agored a rhannu eich meddyliau a'ch teimladau, ac mae'n anoddach fyth os oes rhaid i chi ei wneud hyn eich ail iaith.
"Mae'n hanfodol ein bod yn chwalu'r rhwystr hwnnw ac yn rhoi'r gofod a'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth lywio ein cynnwys therapiwtig."
Beth yw'r rhaglen?
Mae'r rhaglen 'Gofod o Orbryder' ar gael i bobl dros 16 oed sydd â materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol o orbryder.
Bwriad y rhaglen yw "dysgu sgiliau ymdopi ymarferol" i ddefnyddwyr ac mae modd ei gyflawni'n ddienw ar-lein.
Nid oes angen cael apwyntiad meddyg nac ymuno â rhestr aros i gael mynediad at y gwasanaeth.
Ond bydd angen i ddefnyddwyr ymrwymo at o leiaf 15 munud y dydd, dair neu bedair gwaith yr wythnos.
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro gan ymarferwyr cymwys, sy'n darparu adborth bob pythefnos, meddai'r GIG.
Maen nhw hefyd yn gallu cyfeirio achosion mwy difrifol am gymorth pellach.
Ar hyn o bryd, mae 30,000 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth ers iddo gael ei dreialu ym Mhowys yn 2018.
Dywedodd Leah Williams, sef cydlynydd ar-lein y GIG, bod "methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn ofidus".

"Roedd fy ymarferwyr iechyd meddwl a'm cwnselwyr yn ddi-Gymraeg. Roedd hi'n anodd i mi fod yn agored a thrafod materion personol," meddai.
"Mae methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus, yn enwedig wrth siarad am bwnc sydd yn barod yn emosiynol.
"Pan roeddwn i’n siarad â chwnselydd Cymraeg, roedd cysylltiad therapiwtig yno’n syth gan ein bod ni’n rhannu hunaniaeth a dealltwriaeth ddyfnach o fy mhroblemau a'm hanghenion."