Eluned Morgan yn sefyll i fod yn Brif Weinidog â Huw Irranca-Davies fel dirprwy
Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd hi’n sefyll fel ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog Cymru ar y cyd â Huw Irranca-Davies fel dirprwy iddi.
Yn ôl Y Farwnes Eluned Morgan y bwriad fydd “ail osod y berthynas rhwng y llywodraeth a phobl Cymru".
Dywedodd bod y ddau ohonynt eisiau “rhoi Cymru yn ôl ar y llwybr cywir”.
Maent yn dweud bod ganddynt gefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Senedd Llafur Cymru.
Ddydd Sul roedd Ms Morgan wedi dweud ei bod yn “ystyried o ddifrif” y rôl o fod yn arweinydd newydd y blaid Lafur ac yn brif weinidog Cymru.
Fe ddywedodd Jeremy Miles ar yr un diwrnod ei fod wedi enwebu’r gwleidydd.
'Dyfodol gwell'
Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn falch o allu sefyll ar y cyd gyda Huw Irranca- Davies.
“Gyda’n gilydd rydyn ni wedi ymrwymo i roi Cymru yn ôl ar y llwybr cywir," meddai.
"Yn ystod y dyddiau nesaf byddwn yn amlinellu ein blaenoriaethau i wella gwasanaethau cyhoeddus, creu swyddi gwyrdd gwell a rhoi llais i’n cymunedau.
“Byddwn yn canolbwyntio ar newid go iawn a chreu dyfodol gwell i’n cymunedau ar draws Cymru.”
Dywedodd Huw Irranca- Davies bod hi’n "anrhydedd" i fod yn ymgeisydd ar y cyd gydag Eluned Morgan.
Ychwanegodd y byddant yn cydweithio er mwyn “parhau i wella bywydau pobl bob dydd a sefyll yn gadarn dros Gymru decach, fwy gwyrdd.”
Ymateb
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad y bydd Eluned Morgan yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth bod "ffocws Llafur yn gyfan gwbl ar reolaeth eu plaid yn hytrach nag ar newid cyfeiriad i Gymru" ar ôl "wythnosau o ffraeo mewnol".
“Mae gan arweinwyr Llafur yng Nghymru yn y gorffennol diweddar a’r dyfodol agos un peth yn gyffredin ar eu CV – record affwysol o redeg y GIG sydd wedi arwain at restrau aros uwch nag erioed," meddai.
“Os daw Eluned Morgan yn arweinydd Llafur yng Nghymru a phe bai’n dod yn Brif Weinidog, bydd yn rhoi blaenoriaeth i wella clwyfau Llafur yn hytrach nag adnewyddu synnwyr y llywodraeth o bwrpas."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai'r Senedd gael ei alw yn ôl o wyliau'r haf os nad oes unrhyw un arall yn sefyll.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies y bydd hyn yn “rhoi mwy o sefydlogrwydd i Gymru” gan ddadlau y byddai’r wlad “heb lywodraeth weithredol am fisoedd dros yr haf” pe bai’r bleidlais yn cael ei gohirio.
Amserlen
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Llafur Cymru gyhoeddi amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd a Phrif Weinidog Cymru.
Fe fydd cyfnod enwebiadau yn cychwyn am 19:00 ddydd Sadwrn ac yn cau am 12:00 ddydd Mercher yma, 24 Gorffennaf.
Yna fe fydd cyfle i’r rhai sydd wedi eu henwebu drafod eu hymgyrch rhwng 20 Awst a 6 Medi.
Fe fydd Llafur Cymru yna’n cynnal pleidlais rhwng 22 Awst a 13 Medi gyda’r cyhoeddiad am arweinydd newydd Llafur Cymru yn dod ar ddydd Sadwrn 14 Medi.
Fe fydd etholiad ar gyfer Prif Weinidog newydd Cymru yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 18 Medi.