Nifer cynyddol o Ddemocratiaid yn cefnogi Kamala Harris
Mae nifer cynyddol o Ddemocratiaid wedi datgan eu cefnogaeth i Kamala Harris fod yn ymgeisydd arlywyddol y blaid.
Yn eu plith mae Llywodraethwr California, Gavin Newsom. Roedd o'n enw posib i geisio bod yn y ras i fod yn ymgeisydd.
Fe gyhoeddodd Mr Biden, sy'n 81 oed, ddydd Sul ei fod am dynnu allan o'r ras arlywyddol.
Ond mae Donald Trump wedi dweud y dylai rhoi'r gorau i fod yn Arlywydd rŵan.“Os na all redeg am y swydd, ni all redeg ein gwlad,” meddai.
Wrth gyhoeddi nos Sul ei benderfyniad dywedodd Joe Biden ei fod yn cefnogi Ms Harris i'w olynu: “Fy mhenderfyniad cyntaf un fel enwebai’r blaid yn 2020 oedd dewis Kamala Harris fel fy nirprwy arlywydd,” meddai.
“A dyma'r penderfyniad gorau i mi ei wneud. Heddiw, rydw i eisiau cynnig fy nghefnogaeth a chymeradwyaeth lawn i Kamala fod yn enwebai ein plaid eleni.
“Democratiaid - mae'n bryd dod at ein gilydd a churo Trump. Gadewch i ni wneud hyn.”
Roedd pwysau wedi cynyddu ar Joe Biden i gamu o’r neilltu ers ei ddadl deledu yn erbyn Donald Trump fis diwethaf.
Ers cyhoeddi ei benderfyniad mae nifer o sêr Hollywood wedi talu teyrnged iddo.
'Anrhydedd'
Yn ôl Ms Harris mae'n “anrhydedd” i gael cymeradwyaeth Mr Biden.
“Mae’n anrhydedd i mi gael cymeradwyaeth yr Arlywydd, a fy mwriad yw ennill yr enwebiad hwn,” meddai.
“Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i uno’r Blaid Ddemocrataidd - ac uno ein cenedl - i drechu Donald Trump a’i agenda eithafol Prosiect 2025.
“Mae gennym ni 107 diwrnod tan Ddiwrnod yr Etholiad. Gyda'n gilydd, byddwn yn brwydro. A gyda'n gilydd, byddwn yn ennill.”
Bydd Mr Biden yn parhau fel Arlywydd yr UDA am y tro.