Undebau'n galw am sefydlogrwydd gwleidyddol er lles y diwydiant amaeth
Wedi i'r Prif Weinidog Vaughan Gething gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd yn ymddiswyddo, mae'r undebau amaeth wedi gofyn am sefydlogrwydd er lles y diwydiant amaeth.
Wedi'r cadarnhad brynhawn Llun y bydd Eluned Morgan yn sefyll i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, gyda'r Ysgrifennydd sy'n gyfrifol am amaeth ar hyn o bryd, Huw Irrranca-Davies yn ddirprwy iddi, mae pryderon pellach wedi codi am ansefydlogrwydd gwleidyddol ar y diwydiant.
Mae Huw Irranca-Davies wedi awgrymu y gallai barhau â'r portffolio amaeth pe bai'n cael ei ethol yn ddirprwy Brif Weinidog.
Mae Aled Jones, Llywydd undeb NFU Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio y byddai modd i Mr Irranca-Davies barhau yn y rôl amaeth.
"Neges blaen gan yr undebau ydy sefydlogrwydd. 'Den ni wedi gweld tymor hynod o anodd. Ond mae'r ansicwydd yn pryderu ffermwyr," meddai.
Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething yn bresennol ar faes y sioe yn Llanelwedd ddydd Llun, ac yn cyfarfod ag amrywiol gynrychiolwyr o'r diwydiant amaeth.
Mae'r Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies hefyd ar y maes.
Gyda'r Sioe Frenhinol yn dathlu 120 o flynyddoedd ers ei sefydlu eleni, mae disgwyl degau o filoedd o bobl i heidio i Lanelwedd ar gyfer y digwyddiad o ddydd Llun ymlaen.
Er mwyn nodi'r penblwydd arbennig fe fydd arddangosfa newydd i'w gweld yn y prif gylch medd y trefnwyr.
Aberystwyth oedd safle’r sioe gyntaf un yn 1904 ond ers 1963 mae’n cael ei chynnal ar safle parhaol yn Llanelwedd.
Mae’n cael ei chydnabod fel un o sioeau amaethyddol mwyaf Prydain ac yn cael ei chynnal eleni rhwng dydd Llun 22 Gorffennaf a dydd Iau 25 Gorffennaf.
Mae’n denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn a’r bwriad yw dathlu'r byd amaethyddol.
Bob blwyddyn mae un o 12 sir draddodiadol Cymru yn noddi’r Sioe. Ceredigion sydd yn gwneud eleni.
Addasiadau
Eleni mae’r Pentref Garddwriaeth yn ôl ar ôl blwyddyn o saib.
“Byddwn yn lansio ein Pentref Garddwriaeth newydd a fydd yn dathlu tyfu cymunedol a masnachol,” meddai Cyfarwyddwr y Sioe, Richard Price yn ystod digwyddiad lansio’r Sioe ym mis Mehefin.
“Bydd dwy babell gystadlu, un ar gyfer ffrwythau a llysiau ac un ar gyfer trefnu blodau, hwb sgiliau a dysgu newydd o’r enw Dysgubor, gardd synhwyraidd, gerddi arddangos micro, stondinau masnachol a phabell bwyd a diod.”
Yn ogystal mae’r adran y dofednod yn ôl, y tro cyntaf ers 2019 a hynny ar ôl i sefyllfa’r Ffliw adar wella a chyfyngiadau gael eu codi.
Mae’r trefnwyr yn dweud bod y niferoedd sydd yn cystadlu ar draws yr adrannau da byw yn uchel. Y disgwyl yw y bydd bron 7,000 o anifeiliaid yn cael eu harddangos yn ystod y pedwar diwrnod.
Ac yn ôl Cyfarwyddwr y Sioe mae disgwyl i'r arddangosfa sydd yn dathlu penblwydd y Sioe fod yn wledd i'r llygad.
"I nodi pen-blwydd y Gymdeithas yn 120 ac i ddathlu sir nawdd Ceredigion, comisiynwyd arddangosfa newydd ar gyfer y prif gylch. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys pyped anferth o ffermwr o Geredigion gydag anifeiliaid, perfformwyr a chantorion. Arddangosfa unigryw na ddylid ei cholli!”
Protestiadau
Mae wedi bod yn flwyddyn o brotestio yn y byd amaeth wrth i ffermwyr wrthwynebu nifer o bolisïau llywodraethau Cymru a San Steffan.
Wrth siarad cyn ei ymweliad â maes y Sioe Fawr, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies"
"Mae bod yma, yn uchafbwynt y calendr amaethyddol, am y tro cyntaf eleni fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn fraint ac yn anrhydedd. Mae llawer o'r bobl fyddaf yn cwrdd â nhw yr wythnos hon nid yn unig yn gyfrifol am roi bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel ar ein bwrdd - ond hefyd am ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd - sy'n bygwth y cynhyrchu’r bwyd hwnnw.
"Bydd effaith tywydd gwlyb difrifol ar gynnyrch, pocedi ffermwyr a phrisiau i ddefnyddwyr yn dod yn amlwg iawn. Ecosystemau gwydn yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd."
Ychwanegodd: "Rydyn ni yma i wrando a gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr, tirfeddianwyr a'r rhai sy'n gweithio i wella'r ecosystemau hanfodol hyn, i greu sector ffermio cynaliadwy a gwydn yng Nghymru sy'n addas ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol.
"Mae wedi bod yn heriol, ond rwyf wir yn teimlo ein bod yn gwneud cynnydd trwy drafod ystyrlon."