Arestio chwech o ddynion wedi marwolaeth bachgen yn Llundain
22/07/2024
Mae chwech o ddynion wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i fachgen ifanc gael ei saethu.
Cafodd y bachgen ei ddarganfod mewn parc yn ardal Ladbroke Grove yng ngorllewin Llundain nos Sul.
Er ymdrechion y gwasanaethau brys fe fu farw'r bachgen. Y gred yw ei fod yn 15 oed.
Mae’r chwech o ddynion sydd wedi eu harestio wedi eu cadw yn y ddalfa.
Mae Heddlu’r Met yn dweud eu bod wrthi yn gwneud ymholiadau er mwyn dod i wybod pwy yw’r bachgen a fu farw a rhoi gwybod i’w deulu.