Rhybudd i bobl India o feirws heintus wedi marwolaeth bachgen
Mae awdurdodau iechyd yn nhalaith Kerala yn India wedi cyhoeddi rhybudd i bobl fod yn wyliadwrus ar ôl i fachgen 14 oed farw o’r feirws Nipah.
Yn ôl Gweinidog Iechyd y dalaith, mae 60 o bobl eraill mewn perygl o gael yr afiechyd.
Dywedodd Veena George bod y rhai ddaeth mewn cysylltiad â’r bachgen wedi eu profi a’u bod yn ynysu.
Feirws heintus yw hwn sydd yn cael ei drosglwyddo o rhai anifeiliaid i bobl, meddai Sefydliad Iechyd y Byd.
Gall hefyd gael ei basio ymlaen trwy fwyd os yw’r bwyd hwnnw wedi ei heintio, neu os yw rhywun wedi bod mewn cysylltiad â pherson heintus.
Mae pryder y gall sbarduno epidemig.
Fe wnaeth y bachgen 14 oed farw ddydd Sul, diwrnod ar ôl cadarnhad ei fod wedi cael y feirws meddai gwasanaethau newyddion yn India.
Mae dwsinau o farwolaethau wedi bod yn y dalaith ers 2018 pan ddaeth yr adroddiadau cyntaf o’r feirws.
Y cyngor i drigolion lleol yw gwisgo mygydau tu allan ac i beidio ymweld â phobl yn yr ysbyty.