‘Stigma’: Seren Big Brother yn sôn am fod yn ofalwr ifanc am y tro cyntaf
‘Stigma’: Seren Big Brother yn sôn am fod yn ofalwr ifanc am y tro cyntaf
Mae Jenkin Edwards, ddaeth i enwogrwydd ar raglen Big Brother y llynedd wedi penderfynu defnyddio ei lwyfan newydd i godi ymwybyddiaeth o sut beth yw bywyd fel gofalwr ifanc.
Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae Jenkin, 26 oed o Ben-y-bont ar Ogwr yn siarad am fod yn ofalwr ifanc am y tro cyntaf.
“Rwy’n meddwl bod hynny oherwydd bod stigma yn tyfu i fyny. Roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi ei gadw’r peth yn gyfrinach,” meddai.
“Roedd fy ffrindiau’n gwneud yr holl bethau anhygoel hyn, mynd am brydau bwyd, mynd i bartïon, ac roeddwn i bob amser ar y tu allan, oherwydd doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny a doeddwn i byth eisiau gadael iddyn nhw wybod bod yna reswm pam na allwn i.”
Mae gan fam Jenkin broblemau iechyd sy'n effeithio ar ei symudedd. Daeth yn ofalwr ifanc yn 10 oed.
“Doedd ei symudedd hi ddim yn wych, roeddwn yn gwneud llawer o ofal personol, yn ei helpu gyda phopeth. Dyna oedd fy normal i.
“Wnes i erioed sylweddoli fy mod i'n ofalwr ifanc nes oeddwn i yn fy arddegau hwyr. Sylweddolais bryd hynny nid yw pawb yn mynd trwy’r pethau rwy’n eu gwneud.”
Er na chafodd Jenkin unrhyw gymorth wrth dyfu i fyny, roedd ei chwaer fach yn mynychu grŵp Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd yn derbyn cymorth a chefnogaeth.
Mae llawer o ofalwyr ifanc yn dibynnu ar y cymorth a roddir gan Ofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer seibiant, lle i siarad, a chwrdd â phobl ifanc eraill yn yr un sefyllfa.
Ond mae'r mudiad yn wynebu trafferthion ariannol gan eu bod wedi colli £30,000 o'u cyllideb eleni.
Dywedodd Alissa Bevan, o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydyn ni yn brysur iawn. Rydyn ni yn gweithio'n dda iawn gyda'r holl ysgolion ac wedi meithrin perthnasoedd gwych gyda sefydliadau eraill yn yr ardal, ond rydyn ni yn wedi colli rhywfaint o’n cyllid yn ddiweddar sy’n golygu y buodd rhaid gwneud toriadau."
I ddiolch i Ofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr am gefnogi ei deulu, mae Jenkin wedi penderfynu trefnu digwyddiad gyda'r gobaith o godi arian ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth.
“Fe wnaeth y sefydliad gymaint o wahaniaeth i fy chwaer, y seibiant a gafodd hi. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ei rhoi trwy ei phrawf gyrru.
“Mae gallu rhoi yn ôl i sefydliad a helpodd fy nheulu yn golygu gymaint i mi.”
Ac mae hyd yn oed yn mynd i roi ei hwdi gwyrdd a ddaeth yn enwog yn ystod ei gyfnod yn nhŷ Big Brother ar gyfer yr arwerthiant.
“Cawn weld faint gallwn ni ei gael am yr hwdi. Unrhyw beth i helpu a cheisio ein gorau i gasglu arian ar gyfer achos mor bwysig.
“Ces i sioc nad oedd arian ar ôl ar gyfer rhai pethau i ofalwyr ifanc. Dydw i ddim yn deall sut mae’n deg.”
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cefnogi wyth o sefydliadau fel Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r corff yn dweud bod angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r gefnogaeth angenrheidiol i ofalwyr.
‘Gwella llesiant gofalwyr di-dâl’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau asesu a chymorth i ofalwyr ifanc, gyda chyllid blynyddol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cynnal Refeniw.
“Yn ogystal â hyn rydym wedi darparu £700,000 i sefydlu cynllun cerdyn adnabod gofalwr ifanc i’w ddefnyddio mewn ysgolion ledled Cymru, a darparu adnoddau addysgol a rhwydweithiau ychwanegol i gefnogi gofalwyr ifanc. Rydym hefyd wedi cefnogi tair gŵyl flynyddol i ofalwyr ifanc gyda £140,000.
"Mae'r rhain yn darparu gweithgareddau a phrofiadau allgyrsiol i ofalwyr ifanc y gwyddom eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar ddyheadau a chyrhaeddiad.
“Mae £1.6m pellach wedi’i ddarparu dros dair blynedd i ariannu rhaglenni cenedlaethol i wella llesiant gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr ifanc, ac i wella dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio arnyn nhw.”