Xander Schauffele wedi ennill pencampwriaeth golff yr Open
21/07/2024
Mae Xander Schauffele o’r Unol Daleithiau wedi ennill pencampwriaeth golff yr Open yn Troon.
Fe sicrhaodd y jwg claret nodedig gan sgorio naw ergyd yn well na’r safon dros y gystadleuaeth.
Justin Rose o Loegr a Billy Horschel o’r UDA ddaeth yn gydradd ail, saith ergyd yn well na’r safon.
Dyma’r ail gystadleuaeth fawr i Schauffele ennill eleni ar ôl iddo gipio cystadleuaeth PGA yr UDA ym mis Mai.
Llun: Wochit