Tadej Pogačar wedi ennill y Tour de France
Mae’r beiciwr o Slofenia Tadej Pogačar wedi ennill ras y Tour de France am y trydydd tro.
Fe’i coronwyd yn bencampwr ar ddiwedd cymal 21 y ras brynhawn dydd Sul yn Nice.
Fe ddaeth pencampwr y llynedd Jonas Vingegaard o Ddenmarc yn ail a Remco Evenepoel o Wlad Belg yn drydydd.
Pogačar enillodd cymal olaf y ras, ei chweched, sef taith o 33.7 cilomedr yn erbyn y cloc rhwng Monaco a Nice.
Daw ei fuddugoliaeth yn dilyn ennill y Giro d'Italia ym mis Mai, y beiciwr cyntaf i wneud hynny ers 26 mlynedd.
Fe orffennodd Geraint Thomas, oedd yn cystadlu am y tro olaf, yn safle rhif 42 a Stevie Williams o Aberystwyth, oedd yn cystadlu am y tro cyntaf, yn safle rhif 73.
Roedd Thomas, ddaeth yn drydydd yn y Giro wedi datgan cyn y ras na fyddai’n ceisio cystadlu gyda’r ceffylau blaen ond yn hytrach yn chwarae rhan i helpu eraill yn ei dîm, Ineos Grenadiers.
Roedd y ras yn dod i ben yn Nice yn hytrach na Paris am y tro cyntaf ers cychwyn nôl yn 1903 oherwydd y gemau Olympaidd.
Fe ddechreuodd y ras yn Fflorens yn yr Eidal ar 29 Mehefin gyda’r beicwyr yn cwblhau taith o 3,497.3 cilomedr dros 21 o gymalau.
Fe fydd Stevie Williams nawr yn troi ei sylw at Gemau Olympaidd Paris.
Fe fydd Williams, 28 oed, yn ymuno â’r beiciwr 20 oed o Aberaeron, Josh Tarling yn nhîm Prydain ar gyfer ras y ffordd.
Llun: X/UAE-TeamEmirates