Newyddion S4C

Pumed safle i Elfyn Evans yn Rali Latfia

21/07/2024
Elfyn Evans - Rali Latfia

Mae'r Cymro Elfyn Evans wedi dod yn bumed ar ddiwedd pedwar diwrnod o Rali Latfia.

Fe ddechreuodd Evans gymalau ddydd Gwener yn y pedwerydd safle cyn cwympo nôl i'r seithfed safle erbyn diwedd saith cymal y dydd.

Fe lwyddodd Evans i godi un safle ar ôl pedwar cymal cyntaf ddydd Sadwrn.

Ond fe ddaeth eiliad o bryder i Evans wrth iddo adael y ffordd ar gymal 15 yn hwyrach yn y dydd ond fe lwyddodd i ail-ymuno a’r ffordd yn fuan i gwblhau’r cymal.

Daeth cyfle i Evans godi un safle arall ar gymal olaf y rali brynhawn dydd Sul.

Kalle Rovanperä o'r Ffindir enillodd y rali.

Roedd Evans yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y byd cyn Rali Latfia.

LLun: X/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.