Jeremy Miles yn enwebu Eluned Morgan fel arweinydd Llafur Cymru
Jeremy Miles yn enwebu Eluned Morgan fel arweinydd Llafur Cymru
Mae Jeremy Miles wedi enwebu’r ysgrifennydd iechyd, Y Farwnes Eluned Morgan yn yr etholiad ar gyfer Arweinydd Llafur Cymru.
Dywedodd Mr Miles fore dydd Sul: “Rwy’n gobeithio y bydd Eluned yn dod yn arweinydd i ni – byddai ei harweinyddiaeth yn ein galluogi ni i gyd i symud ymlaen, yn unedig wrth wireddu gweledigaeth llywodraeth Lafur Cymru.”
Daw ei gyhoeddiad ar ôl i’r Farwnes Morgan ddweud yn gynharach fore Sul ei bod yn “rhoi ystyriaeth ddifrifol” i sefyll fel arweinydd Llafur Cymru.
Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n ethol rhywun i gymryd lle Vaughan Gething erbyn canol mis Medi.
Dywed y farwnes ei bod yn edrych ar “docyn undod” gyda chyd-aelod o’r Cabinet, Huw Irranca Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.
Dywedodd wrth Politics Wales fod ganddi “dipyn o gefnogaeth” ar draws Llafur ond nid oedd yn fodlon cadarnhau a oes ganddi’r chwe enwebiad gofynnol i’w gosod ar y papur pleidleisio.
Mae gan wleidyddion y blaid sy’n aelodau o’r Senedd tan 12:00 ddydd Mercher i benderfynu pwy maen nhw'n ei gefnogi yn yr ornest arweinyddiaeth, a sbardunwyd ar ôl i'r prif weinidog gyhoeddi ei ymddiswyddiad yr wythnos ddiwethaf.
Roedd disgwyl i’r cyn Ysgrifennydd Economi Jeremy Miles - redeg yn y ras.
Yn ôl adroddiadau roedd ganddo ddigon o gefnogaeth ei gydweithwyr i sicrhau ei le ar y papur pleidleisio.
Mae cefnogwyr Mr Gething yn honni na fyddai Mr Miles yn gallu uno plaid Lafur y Senedd.
Cafodd Mr Miles ei drechu o drwch blewyn gan Mr Gething yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf.
Dywedodd Eluned Morgan wrth Politics Wales ei bod yn gobeithio cadarnhau ei chais o fewn “yr ychydig oriau neu ddyddiau nesaf”.
“Mae yna gryn dipyn o gefnogaeth... gan wahanol adrannau o’r blaid Lafur,” meddai.
Dywedodd “does dim angen i chi berthyn i unrhyw garfan benodol” i’w chefnogi.
Enwebiad
Yn sgil ei chyhoeddiad fe wnaeth Jeremy Miles ei henwebu yn yr etholiad ar gyfer Arweinydd Llafur Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles: “Rwyf heddiw yn enwebu Eluned Morgan fel arweinydd Llafur Cymru.
“Rwy’n gobeithio y bydd Eluned yn dod yn arweinydd i ni – byddai ei harweinyddiaeth yn ein galluogi ni i gyd i symud ymlaen, yn unedig wrth wireddu gweledigaeth llywodraeth Lafur Cymru.”
"Mae Eluned yn ffrind yn ogystal ag yn gydweithiwr gwerthfawr.
"Mae hi wedi sefyll dros fuddiannau Cymru yn y Senedd ond hefyd yn Ewrop, a San Steffan.
"Mae'r gwerthoedd y mae'n eu hyrwyddo - o degwch, ffyniant i bawb, dyfodol gwyrddach a setliad datganoli cryf - yn rhai yr wyf yn eu rhannu'n angerddol.
"Byddai Llafur Cymru o dan Eluned yn estyn allan ac yn cynrychioli pob rhan o'n cenedl.
“Ar nodyn personol, rwy’n ddiolchgar iawn i gymaint o bobl am yr anogaeth i sefyll yn yr etholiad hwn.
“Rwyf wastad wedi rhoi buddiannau ein gwlad a’n plaid yn gyntaf, ac rwy’n gwbl sicr mai Eluned sydd yn y sefyllfa orau i fynd â’r wlad a’r blaid ymlaen.”