Trump yn dweud iddo ‘gymryd bwled dros ddemocratiaeth’
Mae Donald Trump wedi dweud wrth rali yn nhalaith Michigan iddo “gymryd bwled dros ddemocratiaeth” pan fu ymgais ar ei fywyd yr wythnos ddiwethaf.
Gyda miloedd yn bresennol, dyma oedd rali gyntaf Trump gyda’i ddewis fel is-arlywydd JD Vance – ac ers iddo oroesi'r ymgais i'w lofruddio.
Dywedodd wrth arena orlawn yn Grand Rapids fod y Democratiaid wedi ei gyhuddo o fod yn “fygythiad i ddemocratiaeth” a’i fod yn barod i “gymryd y Tŷ Gwyn yn ôl”.
Mae ymchwiliad ar y gweill i’r saethu y penwythnos diwethaf, a wnaeth glwyfo ei glust.
Roedd llinell o bobl yn ymestyn am tua thair milltir y tu allan i'r Van Del Arena sy’n dal 12,000 o bobl.
Yn ei araith, diolchodd Trump i’r “miloedd ar filoedd” o bobl a ddaeth i’w weld “bron yn union” wythnos ar ôl yr ymgais i’w lofruddio.
“Dim ond trwy ras Duw hollalluog yr wyf yn sefyll o’ch blaen,” meddai, gan ailadrodd ei gred bod ymyrraeth ddwyfol wedi ei achub rhag cael ei ladd.
Llun: Wochit