Awgrym o godiad cyflog uwch na chwyddiant yn y sector cyhoeddus
Mae’r canghellor wedi awgrymu y gallai roi codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr y sector cyhoeddus yr haf hwn.
Daw sylwadau Rachel Reeves ar ôl i gyrff adolygu cyflogau annibynnol argymell cynnydd o 5.5% i athrawon a rhai o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ei chyfweliad cyntaf o Rif 11 Downing Street, dywedodd: “Rwy’n gwerthfawrogi gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn fawr, yn ein hysgolion, yn ein hysbytai, yn ein heddlu hefyd.
"Mae yna gost i beidio â setlo, cost gweithredu ddiwydiannol pellach, a chost o ran yr her sy'n ein hwynebu wrth recriwtio."
Ond dywedodd Ms Reeves wrth Laura Kuenssberg y “byddwn yn ei wneud mewn ffordd iawn ac yn sicrhau bod y symiau’n adio i fyny” - gan bwysleisio bod ei rheolau gwariant “ddim yn agored i drafodaeth”.
Fe wnaeth y canghellor newydd addo gwneud penderfyniad ar gyflog cyhoeddus y mis hwn, gan ddweud “na fydd yn rhaid i bobl aros yn hir”.
Fe gyhuddodd Ms Reeves y Blaid Geidwadol hefyd o alw’r etholiad oherwydd “nad oedden nhw’n fodlon gwneud penderfyniadau anodd, a dim ond rhedeg i ffwrdd wnaethon nhw”.
Dywedodd fod y penderfyniad am gyflog athrawon wedi eistedd ar ddesg y cyn ysgrifennydd addysg, a bod y Ceidwadwyr wedi caniatáu i sefyllfa annerbyniol gronni mewn carchardai.
Gallai cost codiadau cyflog o 5.5% i athrawon a rhai staff y GIG gyrraedd £3bn, yn ôl amcangyfrifiadau y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS).
Byddai hynny’n sylweddol fwy na’r 2.5-3% yr oedd y Trysorlys wedi’i ddisgwyl.