Y cyn-chwaraewr snwcer Ray Reardon wedi marw yn 91 oed
Y cyn-chwaraewr snwcer Ray Reardon wedi marw yn 91 oed
Mae cyn-bencampwr snwcer y byd, Ray Reardon, wedi marw yn 91 oed.
Bu farw’r Cymro, a enillodd bencampwriaeth y byd chwe gwaith, ddydd Gwener ar ôl brwydro yn erbyn canser, meddai ei wraig Carol.
Mae Reardon, o Dredegar, yn cael ei ystyried fel un o’r chwaraewyr snwcer gorau erioed.
Dywedodd World Snwcer fod Reardon wedi dominyddu pencampwriaeth y byd yn y 1970au mewn modd tebyg i Steve Davis yn yr 1980au a Stephen Hendry yn y 1990au.
Fe gafodd y llysenw "Dracula" oherwydd steil ei wallt.
"Roedd yn un o ffigurau mwyaf poblogaidd a charismatig ei oes, a oedd yn cael ei garu gan filiynau o gefnogwyr am ei ddisgleirdeb ar y bwrdd a'i hiwmor da," meddai World Snooker.
Dywedodd y Cymro Mark Williams, sydd wedi ennill pencampwriaeth y byd deirgwaith: “Mae Ray yn un o’r chwaraewyr gorau erioed o Gymru a’r chwaraewr snwcer gorau erioed.
"Mae'n un o'r rhesymau pam y dechreuodd llawer ohonom chwarae. Fe roddodd snwcer ar y map, ochr yn ochr ag Alex Higgins, Jimmy White a Steve Davis.
"Mae unrhyw un sy'n chwarae nawr mewn dyled fawr iddyn nhw oherwydd fe ddaethon nhw â phoblogrwydd i'r gêm. Mae'n ysbrydoliaeth go iawn."
Fe dderbyniodd Reardon anrhydedd MBE yn 1985 ac enwyd tlws Agored Cymru ar ei ôl yn 2011.
Llun: Asiantaeth Huw Evans
