Newyddion S4C

11 wedi marw ar ôl i bont ddymchwel yn China

20/07/2024
Pont wedi dymchwel yn China

Mae o leiaf 11 o bobl wedi marw a mwy na 30 ar goll ar ôl i bont ddymchwel yn ystod glaw trwm yng ngogledd orllewin China.

Fe wnaeth y bont ddymchwel dros afon yn ninas Shangluo yn nhalaith Shaanxi oherwydd glaw a llifogydd sydyn, meddai awdurdod y dalaith.

Mae timau achub wedi dod o hyd i sawl cerbyd a ddisgynnodd i’r afon, ac mae ymdrechion yn dal i barhau yn ôl awdurdodau.

Mae Arlywydd China Xi Jinping wedi annog ymdrech “lawn” i ddod o hyd i’r rhai sy’n dal ar goll.

Roedd 11 person wedi marw mewn pum car a ddisgynnodd i’r afon islaw. 

Credir bod 20 cerbyd arall wedi cwympo i'r dŵr, yn ôl adroddiadau.

Ddydd Gwener, cafodd o leiaf pump o bobl eu lladd mewn llifogydd a llithriadau llaid mewn rhan arall o'r dalaith.

Mae rhannau helaeth o ogledd a chanol China wedi eu heffeithio ers ddydd Mawrth gan law trwm sydd wedi achosi llifogydd a difrod sylweddol.

Dywedodd cyfryngau’r wladwriaeth fod o leiaf pump o bobl wedi marw ac wyth ar goll ar ôl i’r glaw achosi llifogydd a llithriadau llaid yn ninas Baoji yn Shaanxi.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.