Galw am uwchgynhadledd pedair gwlad i fynd i'r afael â thlodi plant
Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan, Stephen Flynn, wedi galw am uwchgynhadledd pedair gwlad i fynd i’r afael â thlodi plant.
Wrth groesawu’r newyddion bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu tasglu gweinidogol i roi hwb i’w strategaeth tlodi plant, dywedodd Mr Flynn “na ddylai oedi gweithredu ar y mater”.
Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod “wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth lwyr”.
Cadarnhaodd Mr Flynn y bydd yr SNP yn bwrw ymlaen i ddileu’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn ar unwaith, a disgwylir i bleidlais gael ei chynnal yr wythnos nesaf.
Mewn llythyr at Keir Starmer, dywedodd Mr Flynn fod toriadau San Steffan a Brexit wedi gweld y DU yn dod yn “un o’r gwledydd tlotaf a mwyaf anghyfartal ymhlith ein cymdogion Ewropeaidd”.
Ychwanegodd: “Bydd hynny ond yn newid gyda gweithredu ar y cyd a buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU, sydd wedi bod yn ddiffygiol iawn.
“Rhaid peidio â defnyddio’r tasglu fel esgus i ohirio gweithredu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn glir, ni ddylai unrhyw blentyn fod mewn tlodi ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth uchelgeisiol i leihau tlodi plant a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth lwyr. Mae'r ystadegau ar gyfer tlodi plant yn dangos maint yr her yma yng Nghymru a rhaid i'n hymdrechion ar y cyd barhau i ganolbwyntio ar fuddiannau plant a phobl ifanc heddiw a'r dyfodol.
"Mae ein Strategaeth Tlodi Plant newydd yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer yr hirdymor ac yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i wneud y mwyaf o effaith y dulliau sydd ar gael i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar hyn gyda Llywodraeth newydd y DU."