Newyddion S4C

'Pryder' am safon darllen Cymraeg disgyblion

19/07/2024

'Pryder' am safon darllen Cymraeg disgyblion

"Rwy'n hoffi'r llyfr hyn oherwydd mae e'n heriol ac mae e'n fel, gyda ffeithiau newydd i ddysgu."

Meithrin brwdfrydedd plant mewn llyfrau a darllen yw'r nod yma yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn y Rhondda.

"Weithiau yn y tŷ, dw i'n hoffi gwneud pethau arall ond yn yr ysgol, weithiau dw i'n hoffi darllen achos fel, ni'n gallu dysgu pethau newydd."

"Dw i'n darllen mwy yn yr ysgol ond dw i yn hefyd darllen tu fas o'r ysgol yn y tŷ hefyd."

"Rydw i'n darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg ond dw i'n hoffi rhai Saesneg tipyn bach yn fwy."

Does dim ôl diflastod fan hyn ond mae'r staff wedi gweld rhywfaint o newid dros gyfnod.

"Mae dirywiad cyffredinol wedi bod dros y blynyddoedd diwetha o ran mwynhad o ddarllen.

"Yn sicr, mae plant falle mae 'na gymaint o bethau sy'n effeithio ar eu hamser nhw a gymaint o bethau cyffrous sy'n mynd ymlaen yn eu bywydau nhw.

"Dyw darllen ddim, yn anffodus, ar dop eu rhestr nhw.

"Mae Covid hefyd, yn sicr wedi chwarae rhan yn hyn.

"Mae darllen llyfrau Cymraeg yn gallu bod ychydig yn fwy heriol weithiau hefyd, gan bod nifer o'n plant ni ddim yn siarad Cymraeg ar eu haelwydydd ond mae 'da ni strategaethau yn eu lle.

"Ni'n gwahodd y rhieni mewn, er enghraifft i ddangos sut i falle modelu o ran darllen ar y cyd adref.

"Yn islaw yn yr ysgol mae rhai o'r athrawon yn recordio llyfrau Cymraeg darllen."

Mae data cenedlaethol o'r profion mae plant 7 i 14 oed yn gwneud yn flynyddol yn dangos gostyngiad dros gyfnod y pandemig sy'n cyfateb i ryw flwyddyn ond be sydd fwya trawiadol falle yw'r bwlch rhwng plant sy'n gymwys am brydiau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim.

Bwlch o ryw ddwy flynedd a hanner yn codi i 39 mis i'r plant hynaf.

Mae gwaith ymchwil wedi ei wneud ar effaith y pandemig ar blant mewn addysg Gymraeg.

"Mae ein hymchwil ni falle yn dangos fod yr effaith hynny, o bosib wedi bod yn waeth ar gyfer rhai carfanau.

"Felly y rheiny sy'n dod o deuluoedd ac o aelwydydd di-Gymraeg o'i gymharu 'da'r rheiny sydd â rhieni cyfrwng Cymraeg ar yr aelwyd ac sy'n medru cael y gefnogaeth naturiol yna."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cefnogi prosiectau i hybu hyder plant yn yr iaith gan ychwanegu eu bod yn ymwybodol o fylchau mewn cyrhaeddiad ac yn gweithio i wella'r sefyllfa.

Ond cyllid sy'n allweddol, medd undeb dysgu.

"Mae o'n fater o ddewis, on'd ydy?

"Ydan ni yn buddsoddi arian yn ein system addysg neu 'dan ni ddim?

"Yr unig ffordd y gallen ni sicrhau gwella ydy bod yna fuddsoddiad."

"Recriwtio mwy o athrawon. Recriwtio athrawon fydde falle yn canolbwyntio ar ddarllen yn bennaf ac yn gweithio gydag unigolion cau'r bwlch yna rhwng grwpiau o unigolion."

"Stori yw hon am fachgen a merch o'r enw Rhys a Meinir."

Mae 'na alw ar y Llywodraeth i hybu safonau addysg yn fwy cyffredinol gyda'r data yn awgrymu bod angen sylw arbennig ar ddarllen Cymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.