Ymchwiliad Covid: Llywodraethau Cymru a’r DU wedi ‘methu eu dinasyddion’
Ymchwiliad Covid: Llywodraethau Cymru a’r DU wedi ‘methu eu dinasyddion’
"You must stay at home."
Mae pedair blynedd a hanner ers i bandemig drawsnewid ein bywydau.
Am hanner dydd heddiw, ga'th adroddiad rhan gyntaf Ymchwiliad Covid-19 y DU ei gyhoeddi.
"The processes, planning and policy of the civil contingency structures across the UK failed the citizens of all four nations."
Mae'r adroddiad yn swmpus, dros 200 o dudalennau a deg o argymhellion.
A sawl gwendid yn cael ei danlinellu.
"O'dd 'na lot o bwyslais ar ffliw a'r paratoi wedi'i wneud erbyn fydden ni'n gallu trin ffliw hefo'r cyffuriau sy gynnon ni.
"Felly, doedd dim gymaint o bwyslais ar Track and Trace a chael pawb i aros adref."
Er bod holl lywodraethau'r Deyrnas Unedig yn cael eu beirniadu mae 'na sylw penodol i Gymru hefyd.
Yn ôl yr adroddiad, ga'th paratoadau Cymreig ar gyfer pandemig eu rhwystro gan systemau gor-gymleth.
Doedd asesiadau risg ddim yn adlewyrchu'r sefyllfa ar lawr gwlad.
Er i gofrestr risg cenedlaethol i Gymru gael ei addo doedd dim un yn bodoli o hyd fis diwethaf.
Doedd gwersi heb eu dysgu ar ôl ymarferion flynyddoedd cyn i Covid daro o'dd i fod yn ein paratoi ni ar gyfer problemau fel pandemig.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod dros 10,000 o bobl Cymru wedi marw oherwydd Covid-19.
Doedd y Prif Weinidog na'r Gweinidog Iechyd ddim ar gael am gyfweliad yn ymateb i'r adroddiad heddiw.
Dywedodd y Llywodraeth y bydden nhw'n astudio'r adroddiad yn fanwl ac yn ymateb yn llawn i'r argymhellion.
"We want a detailed plan of what they are going to do to address it.
"We want them to be very specific, measureable, time-framed.
"We don't want to be, as we have been for years, brushed aside with "We're in charge, we do what we like."
Nyrs mewn ysbyty oedd Leanne Lewis pan darodd y pandemig.
Ond ar ôl cael ei heintio gyda'r feirws mae'n dweud bod hi'n byw gyda Covid hir a wedi gadael ei swydd.
"Gall llai wedi colli bywydau.
"Dw i'n credu bod lot fel fi wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd trwy effaith corfforol Covid hir ac effeithiau meddyliol gyda delio gyda trawma y Covid diwrnod ar ôl diwrnod.
"Dw i eisiau nhw i edrych ar beth sy'n digwydd a dysgu o fe a chadarnhau bydd e byth yn cael ei wneud fel'na eto."
Bedair blynedd nôl, roedd delweddau fel y rhain yn boenus o bresennol yn ein hadroddiadau newyddion.
Mae 'na alwadau yn dwysau gan rai am ymchwiliad penodol i Gymru wedi'r dyfarniad cadarn heddiw i bobl yma ac ar draws y Deyrnas Unedig ddiodde'n waeth nag y dylen nhw oherwydd paratoadau diffygiol.