Newyddion S4C

Y pêl-droediwr Enzo Fernandez yn euog o gyflawni trosedd gyrru yn Llanelli

19/07/2024

Y pêl-droediwr Enzo Fernandez yn euog o gyflawni trosedd gyrru yn Llanelli

Fe allai un o sêr mwyaf y byd pêl-droed gael ei wahardd rhag gyrru ar ôl ei gael yn euog o gyflawni trosedd gyrru yn Llanelli y llynedd.

Mae Enzo Fernandez yn chwaraewr canol-cae fyd enwog a enillodd Cwpan y Byd gyda’r Ariannin yn 2022.

Ond cafodd y gŵr 23 oed, sydd yn chwarae dros Chelsea, ei gyhuddo o beidio â datgelu gwybodaeth am ei hun i Heddlu Dyfed-Powys ar 27 Rhagfyr 2023.

Roedd dan amheuaeth o yrru ei gar Porsche Cayenne drwy olau coch ar Stryd yr Eglwys, ar 27 Rhagfyr 2023, ac o yrru’r cerbyd heb yswiriant.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener, cafwyd Fernandez yn euog o fethu â datgelu gwybodaeth am ei hun. Cafodd y ddau gyhuddiad arall eu tynnu'n ôl.

Nid oedd yn bresennol ar gyfer y gwrandawiad, ond mi fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llanelli ar 11 Medi.

Fe ymunodd Fernandez â Chelsea fis Ionawr y llynedd am £106.8 miliwn, sy’n golygu mai ef yw’r pumed chwaraewr drytaf yn hanes y gamp.

Roedd hefyd yn rhan o dîm Yr Ariannin a enillodd y Copa America yn gynharach yr wythnos hon.

Ond ymddiheurodd yn gyhoeddus ar ôl i fideo ohono ef a rhai o’i gyd chwaraewyr yn canu cân “sarhaus” am Ffrainc ymddangos ar ei gyfrif Instagram.

Llun: Getty/Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.