Cynnal Gŵyl Balchder Gogledd Cymru yn Llangefni am y tro cyntaf
Bydd gŵyl balchder yn cael ei chynnal mewn tref fechan ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.
Dyma'r tro cyntaf i Falchder Gogledd Cymru ddod i Langefni, gyda lleoliad y digwyddiad yn cylchdroi bob blwyddyn.
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 2011 gan y diweddar Keith Parry er mwyn rhoi cyfle i ardaloedd gwledig ddod at ei gilydd i ddathlu a chefnogi'r gymuned LHDTC+.
Yn ôl Klaire Tanner, cadeirydd Balchder Gogledd Cymru, mae'n "bwysig" dod â Balchder i gymunedau gwledig.
"Mae 'na lot o ynysu cymdeithasol yng Nghymru, felly mae'n bwysig gallu dod â Balchder iddyn nhw," meddai.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cymryd lle yng Ngwesty'r Bull yng nghanol Llangefni o 11.00 ymlaen.
Ar y dydd bydd stondinau cymorth, parêd o amgylch y dref yn ogystal â cherddoriaeth fyw yn y prynhawn.
'Gwneud bywyd yn well'
"Mae pobl hoyw yng ngogledd Cymru angen gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain," meddai Klaire Tanner.
"Ein nod ni ydy gwneud bywyd yn well i bobl sy'n hoyw ac yn cael problemau gyda homoffobia neu thrawsffobia yma."
Yn ogystal â dathlu ar y diwrnod, mae Balchder Gogledd Cymru yn gobeithio cael effaith hirdymor ar y rhai sy'n mynychu.
"Da ni'n trio cael pobl sydd yno i wneud gwyliau balchder eu hunain efo’r hyn 'da ni 'di ddysgu iddyn nhw," meddai.
Fe wnaeth cynnal yr ŵyl yng Nghaernarfon y llynedd sbarduno'r elusen GISDA i gynnal gorymdaith Balchder yn y dref eleni.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard: “Rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel lleoliad Balchder Gogledd Cymru eleni. Mae’r achlysur cynhwysol hwn yn dathlu amrywiaeth - gan gynnwys amrywiaeth ein cymunedau ni.
“Mae'n bwysig bod aelodau o gymunedau gwledig fel Ynys Môn yn cael cyfle i gymryd rhan. Dymunwn yn dda i'r trefnwyr a'r cyfranogwyr.”