Newyddion S4C

'Mwy nag erioed' o Gymry yn anelu am aur yng Ngemau Olympaidd Paris

21/07/2024
Cymry Gemau Olympaidd

Mae’n debyg y bydd yna fwy o Gymry yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni nag erioed o’r blaen, yn ôl arbenigwr ar hanes y gemau.

Gyda 31 o athletwyr o Gymru wedi eu dewis yn nhîm y DU  ar gyfer Paris 2024, a phedwar ychwanegol ar y rhestr wrth gefn, mae'r ystadegydd Olympaidd, Hilary Evans, yn credu fod gan y Gymry "siawns gwirioneddol" o dorri’r record am y niferoedd medalau aur.

Mae Mr Evans, o Lanilar, wedi bod yn casglu data ar y gemau ers dros 15 mlynedd, ac yn rhan o Gymdeithas Rhyngwladol Hanesyddwyr y Gemau Olympaidd, yn ogystal â’r tîm sydd yn cynnal y wefan Olympaidd.

30 oedd y nifer uchaf o Gymry i gymryd rhan mewn Gemau Olympaidd yn flaenorol, a hynny yn y gemau 2012 yn Llundain.

'Cysylltiad Cymraeg cryfaf'

“Dwi’n credu mai dyma’r cysylltiad Cymraeg cryfaf ni di cael erioed," meddai Hilary Evans.

"Mae’n anodd dweud beth fydd yn digwydd ac os yw hynny’n golygu mwy o fedalau, ond fi’n optimistig iawn amdanyn nhw.

“Mae’n adlewyrchu pa mor gryf ydyn ni mewn rhai campau, a pha gampau nad ydyn ni ddim mor gryf ynddyn nhw. Dwi’n credu fod fwy o athletwyr wedi cystadlu dros y blynydde, dim ond un sydd eleni ac mae hynny dipyn bach yn siomedig i Gymru.

“Ond mae seiclo, nofio a rhwyfo wedi neud lan am hwnna. Mae’r niferoedd yn y campau yna yn dda iawn i Gymru. Falle fod dal tipyn bach o siom nad oes mwy yn y campau eraill, ond mae lefel y gystadleuaeth yn uchel iawn i fod yn rhan o dîm GB.”

Mae Cymru wedi ennill pedwar medal aur ar dri achlysur yn y gorffennol – yn Antwerp yn 1920, yn Rio de Janeiro yn 2016 ac yn Tokyo yn 2020.

Ond os yw’r Cymry am fentro i dorri’r record ag ennill pum medal aur ym Mharis yn ystod Gorffennaf ac Awst – dyma’r pump i wylio allan amdanyn nhw, yn ôl yr arbenigwr.

Emma Finucane – Seiclo – Sbrint unigol, sbrint tîm, keirin.

“Taswn i’n dewis un person i ennill medal aur – ac efallai hyd at dri, Emma Finucane byddai hynny,” medd Mr Evans.

Yn 2023, daeth Finucane o Gaerfyrddin yn bencampwraig y byd yn y sbrint unigol. Bydd y fenyw 21 oed yn cystadlu yn yr un ras ym Mharis, yn ogystal â’r sbrint tîm a’r Keirin.

Image
Emma Finucane (Llun: AFP/Wocthit)
Emma Finucane (Llun: AFP/Wochit)

Ollie Wynn Griffith – Rhwyfo – Parau

Fe enillodd Ollie Wyn Griffith y fedal efydd yn Tokyo yn 2021, fel rhan o dîm o wyth.

Eleni, bydd y gŵr 30 oed yn cystadlu mewn pâr gyda Tom George, ac mi fydden nhw’n gobeithio atgynhyrchu eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Ewrop eleni, lle enillwyd y fedal aur.

Image
Ollie Wynne Griffith (Llun: Getty/Wotchit)
Ollie Wynne Griffith (Llun: Getty/Wochit)

Josh Tarling – Seiclo – Ras yn erbyn y Cloc (TT)

Fe wnaeth Josh Tarling, sydd yn 20 oed, ysgwyd y byd seiclo y llynedd yn ei dymor cyntaf fel beiciwr proffesiynol, gan ennill pencampwriaethau Ewrop a Phrydain yn y ras yn erbyn y cloc, yn ogystal â dod yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Byd.

Bydd y gŵr o Aberaeron ymhlith y ffefrynnau i hawlio’r fedal aur ym Mharis eleni.

Image
Josh Tarling (Llun: Getty/Wotchit)
Josh Tarling (Llun: Getty/Wochit)

Matt Richards -  Nofio – Dull Rhydd 200m

Matt Richards yw’r dyn gyflymaf yn y byd dros 200 medr eleni. Wedi iddo ennill Pencampwriaeth y Byd y llynedd hefyd, mi fydd e’n un o obeithion cryfaf y Cymry am fedal.

Fe allai Matt, 21 oed, rasio hyd at 15 o weithiau eleni, wrth iddo geisio ennill sawl medal yn ystod y gemau.

Image
Matt Richards (Llun: Getty/Wotchit)
Matt Richards (Llun: Getty/Wochit)

Jeremiah Azu – Athletau – Ras gyfnewid 100m

Fe enillodd Jeremiah Azu, o Gaerdydd, bencampwriaeth Prydain yn 2023, yn ogystal â’r fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2022.

Azu, sydd yn 23 oed, yw’r unig aelod o dîm athletau’r DU sydd yn dod o Gymru. Bydd yn cystadlu yn y 100m unigol, ond mae Hilary yn credu mai yn y ras gyfnewid bydd ei gyfle orau am fedal.

Image
Jeremiah Azu (Llun: Getty/Wotchit)
Jeremiah Azu (Llun: Getty/Wochit)

Ac mae gan sawl un arall siawns o hawlio medal hefyd, yn ôl Hilary.

“Mae Elinor Barker, Anna Morris a Jess Roberts yn nhîm y Team Pursuit, yn y felodrom, efo siawns o ennill medal, ac mae gan Elinor Barker ail gyfle yn y Madison hefyd," meddai.

“Ar yr hewl, fe allai’r beiciwr Stevie Williams, o Gapel Ddewi, wneud yn dda ar ôl cael Tour de France go lew eleni. Fe allai’r cwrs siwtio fe.

“Yn y rhwyfo, mae Harry Brightmore yn cox yn yr Wyth, a gyda chyfle i ennill medal.

“Yn yr hoci, mae siawns da’r dynion a’r merched i gael rhyw fath o fedal, gyda phedwar o Gymry yn y timau. Mae’n rhaid cofio hefyd am Michael Beckett yn yr hwylio

“Ac wrth gwrs, mae Jade Jones yn y Taekwondo. Dyw hi ddim yn ffefryn fel oedd hi yn Llundain neu Rio, ond mae siawns da hi gael ryw fath o fedal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.