Mae nifer yr ail dai sydd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar ôl i'w premiwm treth cyngor gynyddu.
Yn ôl ystadegau newydd, roedd 135 o ail dai ar y farchnad ym mis Gorffennaf, i fyny o 38 y flwyddyn flaenorol.
Mae ymgyrchydd sydd am weld y farchnad dai yn cael ei diwygio wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "calonogol".
Ond yn ôl un gwerthwr tai, mae talu rhagor o dreth cyngor wedi cael "effaith enfawr" ar berchnogion ail dai.
O dan reolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Fe gyflwynodd Cyngor Sir Penfro y premiwm treth cyngor o 200% ar berchnogion ail dai ym mis Ebrill gan dreblu eu biliau.
Ond mae'n bosib osgoi talu'r premiwm am hyd at flwyddyn gan roi'r tŷ ar y farchnad.
Ar 1 Gorffennaf eleni, roedd nifer yr ail dai ar werth yn y sir wedi cynyddu o 97 mewn blwyddyn - cynnydd o 255%.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos bod nifer yr ail dai a hunan arlwyo wedi gostwng dros eleni o'i gymharu â 2023.
Maen nhw'n dangos bod:
- nifer yr ail dai wedi gostwng o 3,364 i 3,271 (-2.7%)
- nifer llety hunan arlwyo wedi disgyn o 2,621 i 2,425 (-7.47%)
Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o gytundeb cyd-weithio Llafur a Phlaid Cymru, y premiwm yn rhannol er mwyn ei gwneud yn haws i bobol leol allu fforddio prynu tai yn yr ardaloedd y cawson nhw eu magu.
Cafodd Hedd Ladd Lewis, sy'n ymgyrchu i ddiwygio'r farchnad dai ei fagu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.
Mae tua 30% o'r eiddo yn y dref yn ail dai neu yn llety gwyliau.
Dywedodd bod y cynnydd yn nifer yr ail dai sydd ar werth yn "galonogol".
"Ond dwi’n credu mai rhan o’r broblem yw hwnna oherwydd pwy sydd yn mynd i brynu’r tai yma?"
Ychwanegodd: "Beth sydd gyda ni yw marchnad agored a dyw’r bobol leol sydd yn ennill cyflogau bach - ar gyfartaledd £28,000 y flwyddyn - dydyn nhw methu cystadlu ac felly mae yna ryw anghyfiawnder mawr o ran y farchnad dai ac yn sicr mae angen gweld ryw fath o ddeddf eiddo sydd yn mynd i sicrhau fod gan y gymuned leol hawl gyfreithiol i gartref."
Dywedodd Neil Evans, perchennog gwerthwyr tai West Wales Properties, bod y premiwm treth cyngor wedi cael "effaith enfawr", yn enwedig mewn llefydd fel Tŷ Ddewi a Threfdraeth.
"Ry'n ni'n gweld tai yn dod ar farchnad ar lefel nad ydw i wedi ei weld mewn 30 mlynedd," meddai.
"Fe allan nhw (perchnogion ail dai) brynu eiddo'r ochr arall i Afon Hafren a chael dim o hyn. Be ry'n ni'n ffeindio hefyd yn gyffredinol hefyd yw ei fod wedi effeithio'r farchnad wyliau hefyd."
Dywedodd y Cynghorydd Aled Thomas, Ceidwadwr lleol sy'n gwrthwynebu'r premiwm: "Mae twristiaid yn un o'r pethau sy'n dod a'r arian i'r economi ond mae dal pobol sydd yn mynd allan o fusnesau achos y polisïau yma.
"Y peth i wneud yw adeiladu mwy o dai. Dim ond ryw 20/30 o dai sydd wedi cael eu hadeiladu gan y cyngor yn y 30 mlynedd diwethaf ac mae hwnna'n warthus.
"Os ni eisiau bod yn serious am gael mwy o dai i bobol leol a phrisiau tai yn dod lawr mae angen adeiladu mwy o dai."
Mae Cyngor Sir Benfro yn anghytuno â'r ffigyrau gan y cynghorydd Aled Thomas ac wedi cael cais i wneud sylw.