Sir Gâr: Un wedi marw ac un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Cross Hands
Mae un person wedi marw ac un arall yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd tua’r dwyrain yr A48 ger Foelgastell, rhwng Cross Hands a Llanddarog.
Mae'r A48 rhwng Cross Hands a Llanddarog yn parhau i fod ar gau, tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, meddai’r heddlu brynhawn Gwener.
“Rydyn ni’n cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal gan ein bod ni’n rhagweld y bydd y ffordd yn parhau ar gau am beth amser,” medden nhw.
“Mae dargyfeiriadau ar waith, ond rydyn ni’n rhagweld traffig ac oedi hir.
“Byddwn yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol unwaith y bydd wedi ailagor.”