
Adam yn yr Ardd: 'Popeth yn newydd' ym Mhentref Garddwriaeth y Sioe
Adam yn yr Ardd: 'Popeth yn newydd' ym Mhentref Garddwriaeth y Sioe
Ar ôl blwyddyn o saib mae'r Sioe Arddwriaeth yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru ar ei newydd wedd.
Eleni mae'r sioe wedi datblygu i fod yn Bentref Garddwriaeth sydd yn cynnwys nifer o atyniadau newydd gan gynnwys caffi a marchnad.
Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Garddwriaeth Er Anrhydedd y Pentref Garddwriaeth eleni, ac mae'n barod i arddangos y pentref newydd.
"Ma' popeth yn newydd, o’r lloriau i’r gwelyau i’r pebyll," meddai wrth Newyddion S4C.
“O’r blaen wrth gwrs roedd arfer bod un pabell mawr, a’r cystadlaethau i gyd yn cael eu lletya mewn un pabell. Felly bydden i’n dweud bod ‘na ffocws yn bendant ar yr ochr gystadleuol o bethau.
“Mae’r ffocws dal yno o ran cystadlu, ond ma’ ‘na bwyslais ehangach ar garddwriaeth yn gyffredinol."

Yn rhan o'r arlwy newydd eleni mae'r Eisteddflodau lle bydd celf flodau yn cael ei arddangos.
Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer y pentref wedi bod yn broses dros flwyddyn o hyd, meddai Mr Jones.
Fe wnaeth nifer o bwyllgorau gwrdd er mwyn sicrhau bod y pentref yn cynnig rhywbeth i bawb.
“Mae’r garddle gyda ni, gyda phob math o gystadlaethau i blant, pobl ifanc ac arddangoswyr traddodiadol," meddai.
“Mae’r Dysgubor gyda ni, neu’r ysgubor dysgu. Mae ‘na gerddi sioe micro ‘da ni.
“Mae siwt gymaint o bethau i restru, mae’r marchnad i dyfwyr a ma hefyd ardal fwyd.

“Mae’n ardal lle ni eisiau i deuluoedd i ddod, mae cysgod ‘ma, ma’ pobl yn gallu dod ‘ma i ymlacio yng nghanol y blodau, mae’n ardd go iawn."
Roedd y saib y llynedd yn gyfle i feddwl sut oedden nhw eisiau datblygu'r ardal meddai Adam.
"Daeth y saib fel cyfle i wasgu’r botwm reset a meddwl mewn ffordd o ran beth oedd eisiau arno ni, fel y’n ni mynd i ddathlu garddwriaeth Cymru mewn ffordd newydd?" meddai.
“Mae e i bob pwrpas fel pwyllgor gwaith y Steddfod neu unrhyw sioe arall, ma’ ‘na sawl elfen o ran diogelwch, bwyd, planhigion, pob math o bethau.
“A fi’n ffodus dros ben bod ‘na fyddin o bobl sy’n gweithio caib a rhaw i dynnu popeth at ei gilydd."
'Datblygu ac ehangu'
Mae'r pentref garddwriaeth eleni wedi cynyddu yn sylweddol o'r un diwethaf yn 2022.
Gweledigaeth Adam yw gweld y pentref yn parhau i ehangu dros y blynyddoedd i ddod, a thyfu yn uchafbwynt yng nghalendr garddwriaeth Cymru.
“Fi’n teimlo fel dyma yw ein llwyfan rhyngwladol ni fel gwlad i ddangos y gorau o’n amaethyddiaeth ni a hefyd o garddio, ac mae garddio’n rhan ganolog o amaethyddiaeth," meddai.
“Yn draddodiadol falle bod ni heb wneud y mwya’ o’r cyfle sy’ ‘da ni ‘ma.
“O’dd e braidd yn bedydd tân. Fi erioed ‘di trefnu dim byd ‘da’r sioe o’r blaen. A be’ dwi ‘di dysgu yw bod byddin o wirfoddolwyr yn gwneud i bopeth digwydd.

“Y weledigaeth i fi yw bod hwn yn datblygu, ehangu a bod pobl eisiau dod ‘ma.
“Dwi ishe bod 'na ryw fath o fwrlwm, bod e’n binacl, bod e’n grand prix. Dyma yw coron dathliad Cymru o ran garddwriaeth bob blwyddyn."
Mae Adam a'i dîm o wirfoddolwyr yn barod i groesawu miloedd i'r pentref yn ystod y dyddiau nesaf.
“I weld pobl yn mwynhau yw’r peth pwysicaf, pobl yw’r sioe, sioe y bobl yw hon," meddai.