Newyddion S4C

Dyn wedi marw mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant

19/07/2024
Kyle Colcomb

Roedd gweithiwr wedi marw mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant, meddai'r crwner.

Clywodd Llys y Crwner ym Mhontypridd bod Kyle Colcomb, 27 wedi marw tra'n gweithio i gwmni Atlantic Recycling yn Nhredelerch ar 8 Gorffennaf.

Dywedodd conrthwyydd y crwner bod Mr Colcomb, o Gasnewydd wedi marw yn y fan a'r lle ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant.

Roedd arolygiad post-mortem wedi ei gynnal ar 15 Gorffennaf gan Dr Richard Jones, a ddywedodd bod ei farwolaeth wedi ei achosi gan fethu ag anadlu ar ol cael ei gywasgu, ag anafiadau i'r torso.

Fe wnaeth y crwner ohirio’r achos tra bod ymchwiliadau’r heddlu a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau.

'Cwsg yn dawel'

Dywedodd cyd-weithwyr Mr Colcomb yn M&B Hydraulics mewn datganiad ar Facebook na fyddai neb yn gallu cymryd ei le.

"Rydym yn drist iawn i ddweud bod Kyle wedi cael ei gymryd oddi wrthym mewn digwyddiad ar safle ailgylchu yng Nghaerdydd.

"Rydym wedi ein dryllio gan golled Kyle. Roedd yn ŵr bonheddig ac yn ddyn hynod o garedig. Nid oes unrhyw un yn gallu cymryd ei le.

"Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda thi a dy adnabod. Cwsg yn dawel ein ffrind.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg ofnadwy hon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.