Newyddion S4C

Rygbi: Cais hwyr Kieran Hardy yn sicrhau buddugoliaeth gyntaf i Gymru ers Cwpan y Byd

19/07/2024
Chwaraewyr Cymru yn dathlu wedi i Kieran Hardy sgorio yn erbyn y Queensland Reds

Mae Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf yn 2024 wrth i gais yn y munudau olaf gan Kieran Hardy sicrhau buddugoliaeth 36-35 yn erbyn y Queensland Reds.

Hon oedd gêm olaf Cymru ar eu taith yn Awstralia.

Collodd tîm Warren Gatland eu dwy gêm agoriadol yn erbyn y Wallabies.

Cory Hill oedd fod i gapteinio Cymru heddiw ond fe dynnodd allan o'r garfan ychydig cyn y chwiban gyntaf "am resymau personol".

Gareth Davies gafodd ei enwi'n gapten yn ei le ac wedi arwain Cymru i'w fuddugoliaeth gyntaf eleni.

Roedden nhw ar y blaen 24-14 erbyn hanner amser, ond roedd y Reds wedi mynd ar y blaen 35-31 gyda naw munud yn weddill.

Sgoriodd Kieran Hardy yn y gornel wedi 78 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru.

'Diolch'

Wrth siarad ar ôl y gêm, diolchodd capten Cymru ar y daith, Dewi Lake y cefnogwyr am eu holl gefnogaeth.

"Mae'r canlyniad yma yn dda a'n mynd i yrru ni i gemau'r hydref ac i flwyddyn nesaf," meddai.

"Arhoswch gyda ni, gobeithio bod ni wedi dangos beth rydym ni'n gallu gwneud a'n mynd i wneud yn ystod y daith hon.

"Rydym yn diolch i chi am yr holl gefnogaeth rydych chi wedi dangos i ni."

Bydd Cymru yn chwarae nesaf yn erbyn Ffiji yn Stadiwm Principality ar 10 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.