'Datrysiad ar y ffordd' wedi i nam technegol sylweddol daro cwmnïau'n fyd-eang
Mae "datrysiad ar y ffordd" meddai cwmni diogelwch TG wedi i nam technegol gael effaith sylweddol ar systemau nifer o feysydd awyr, darlledwyr a banciau'n rhyngwladol yn fyd eang fore dydd Gwener.
Mae hediadau cwmnïau American Airlines, Delta Airlines ac United Airlines yn yr UDA wedi cael eu hatal, tra bod maes awyr Berlin wedi dweud ei fod wedi atal pob hediad tan 10:00 amser lleol oherwydd nam technegol.
Mae cwmni diogelwch seiber CrowdStrike wedi dweud mai camgymeriad yn ei feddalwedd diogelwch sydd yn gyfrifol.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd CrowdStrike nad oedd y problemau o ganlyniad i “ymosodiad seibr”, gan ychwanegu: “Mae’r mater wedi’i nodi, ac mae datrysiad ar y ffordd."
Dywedodd cwmni rhyngwladol Microsoft ei fod yn parhau i fynd i’r afael ag “effaith barhaus” i'w wasanaethau ar hyn o bryd.
Mae'n ymddangos bod y nam yn effeithio ar gyfrifiaduron personol Windows yn fyd-eang.
'Ymchwilio'
Nid oedd Sky News yn gallu darlledu teledu byw fore Gwener oherwydd problemau technegol chwaith.
Mae cwmni hedfan Ryanair wedi rhybuddio am “amhariadau posibl ar draws y rhwydwaith” oherwydd toriad byd-eang i'w system trydydd parti.
Ychwanegodd bod y problemau yn "effeithio ar bob cwmni hedfan sy’n gweithredu ar draws y rhwydwaith.”
Mae cwmni trenau mwyaf Prydain hefyd wedi rhybuddio teithwyr i ddisgwyl oedi ar gledrau'r rhwydwaith.
Cyhoeddodd Govia Thameslink Railway (GTR) - sydd yn rheoli cwmnïau Southern, Thameslink, Gatwick Express a Great Northern rybudd ar eu cyfrifon cymdeithasol.
Dywedodd y cwmni: “Rydym ar hyn o bryd yn profi problemau technoleg eang ar draws ein rhwydwaith cyfan.
“Mae ein timau technoleg wrthi’n ymchwilio i ganfod achos sylfaenol y broblem."
Llun: Maes awyr Stansted gan PA