Newyddion S4C

Volodymyr Zelensky i annerch cyfarfod arbennig o Gabinet Llywodraeth y DU

19/07/2024
Zelensky yn cyrraedd Y Swistir ar gyfer trafodaethau heddwch

Bydd Volodymyr Zelensky yn annerch cyfarfod arbennig o Gabinet Llywodraeth y DU ddydd Gwener wrth i Syr Keir Starmer danlinellu cefnogaeth Prydain i Wcráin.

Arlywydd yr Wcrain fydd yr ymwelydd swyddogol cyntaf â Downing Street o dan arweinyddiaeth Syr Keir, a’r arweinydd tramor cyntaf i annerch y Cabinet yn bersonol ers arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton yn 1997.

Mae disgwyl iddo friffio gweinidogion am y sefyllfa yn Wcrain a’r angen i ehangu sylfaen ddiwydiannol amddiffyn Ewrop, yn ogystal â chytuno ar gytundeb cyllid allforio amddiffyn gwerth £3.5 biliwn gyda Syr Keir.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae Wcrain, a bydd bob amser, wrth galon agenda’r Llywodraeth hon ac felly mae’n addas iawn bod yr Arlywydd Zelensky yn gwneud anerchiad hanesyddol i’m Cabinet.

“Nid yw enillion Rwsia ar faes y gad yn ddim o’u cymharu â’r gefnogaeth ryngwladol ar y cyd i Wcráin, na chryfder y cysylltiadau rhwng ein pobl.”

Wrth siarad â’r BBC cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Zelensky ei fod angen “cefnogaeth gref” gan Syr Keir ac y byddai’n pwyso am ganiatâd i ddefnyddio taflegrau Prydeinig yn erbyn targedau yn Rwsia, yn enwedig lleoliadau lle roedd lluoedd Rwsia yn ymosod ar dargedau sifil yn Wcráin.

Yn ystod uwchgynhadledd Nato yr wythnos diwethaf, awgrymodd Syr Keir y byddai Wcráin yn gallu defnyddio’r taflegrau yn erbyn targedau Rwsiaidd, ond fe ychwanegodd Downing Street yn ddiweddarach nad oedd polisi’r Llywodraeth ar ddefnyddio taflegrau Storm Shadow y DU wedi newid.

Mae ymweliad yr Arlywydd Zelensky â Downing Street yn dilyn uwchgynhadledd y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd (EPC) ym Mhalas Blenheim, Rydychen, ddydd Iau, lle cytunodd 44 o wledydd a’r UE i dargedu fflyd Rwsia o danceri olew sy’n ceisio osgoi cosbau llym rhyngwladol ar olew o Rwsia.

Mae'r grŵp o tua 600 o longau yn cario 1.7 miliwn o gasgenni o olew y dydd, gan ddarparu arian ar gyfer ymdrech ryfel Moscow tra hefyd yn gweithredu fel gorsafoedd gwrando neu'n cludo arfau i Rwsia.

Mae'r llongau yn aml yn hen ac yn beryglus, ac yn cymryd rhan mewn arferion peryglus megis diffodd eu systemau olrhain lleoliad, gan gynyddu'r risg o wrthdrawiad difrifol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.