Ysgol leiaf Ynys Môn yn cau ei drysau am y tro olaf

19/07/2024
ysgol carreglefn

Fe fydd y drysau'n cau am y tro olaf yn ysgol leiaf Ynys Môn ddydd Gwener, gan gau pen y mwdwl ar ganrif a chwarter o hanes.

Ym mis Mai eleni fe wnaeth aelodau o Bwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn bleidleisio o blaid cau Ysgol Carreglefn.

Dyma'r ysgol gynradd oedd â'r costau uchaf fesul disgybl yng Nghymru gyfan, sef £17,200 y disgybl.

Roedd gan yr ysgol 80% o leoedd gwag, gyda naw disgybl yn unig yno cyn iddi gau, a phedwar ohonynt ym mlwyddyn 6.

Yn ôl rhagolygon yr ysgol, byddai pump neu lai o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol o fis Medi ymlaen. 

Bydd disgyblion yr ysgol yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell ym mis Medi.

Roedd disgyblion Ysgol Carreglefn yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth, gan olygu bod disgyblion rhwng pedwar ac 11 oed yn cael eu haddysgu gyda'i gilydd. 

Dywed y cyngor fod hyn wedi bod yn "heriol o ran cwrdd ag anghenion disgyblion o wahanol oedran."

Wrth gau Ysgol Carreglefn mae'r cyngor yn dweud y byddai hyn yn gallu "lleihau lleoedd gwag yn Ysgol Llanfechell" a gostwng y gost fesul disgybl ar yr ynys.

Yn ôl amcangyfrifon y cyngor, gallai'r cam greu arbedion refeniw o £126,000 y flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.