Newyddion S4C

Donald Trump yn disgrifio cael ei saethu wrth dderbyn enwebiad y Gweriniaethwyr

19/07/2024
Donald Trump

Mae Donald Trump wedi derbyn enwebiad y Gweriniaethwyr gan ei gadarnhau fel ymgeisydd swyddogol y blaid ar gyfer etholiad arlywyddol yr UDA.

Ar ddiwedd cynhadledd y blaid yn Wisconsin, dywedodd y cyn-Arlywydd ei fod yn barod am yr her, ac fe ddisgrifiodd wrth y dorf y profiad o gael ei saethu ddydd Sadwrn diwethaf.

"Symudodd fy llaw dde i'm clust... ac roedd fy llaw wedi'i gorchuddio â gwaed. Roeddwn i'n gwybod ar unwaith ei fod yn ddifrifol iawn.

“Pe na bawn i wedi symud fy mhen ar yr eiliad olaf un, byddai bwled y llofrudd wedi taro ei gefn yn berffaith, ac ni fyddwn gyda chi heno.”

Ychwanegodd mai dyma fyddai'r unig dro iddo drafod yr ymgais i'w ladd gan fod yr atgofion o'r profiad mor boenus iddo.

Cafodd y dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ei saethu'n farw ac fe ddywedodd yr FBI mai ei enw oedd Thomas Matthew Crooks, oedd yn 20 oed.

Cafodd dyn arall oedd yn y dorf ei saethu'n farw yn yr ymosodiad.

Siaradodd Mr Trump am awr a hanner ar y noson - gan dorri ei record ei hun am yr araith hiraf ar deledu gan ymgeisydd am enwebiad ei blaid.

Mewn hwb arall i'w ymgais i gael ei ethol eto yn arlywydd ym mis Tachwedd, fe dderbyniodd Mr Trump ragor o gefnogaeth ddydd Iau, a hynny gan y biliwnydd Elon Musk.

Ar ei blatfform cyfrwng cymdeithasol X (Twitter gynt) fe wnaeth Mr Musk greu hashnodau penodol ar gyfer ymgyrch Mr Trump i gael ei ail ethol.

Cyfareddu

Roedd y dorf yn y gynhadledd ym Milwaukee wedi eu cyfareddu gan araith Mr Trump, ac mae ei boblogrwydd ymysg ei gefnogwyr wedi ffynnu ers yr ymgais i'w ladd.

Ond os yw ei ymgyrch yn mynd o nerth i nerth, mae ei wrthwynebydd Joe Biden yn wynebu rhagor o heriau wrth i fwy a mwy gwestiynu ei allu i arwain eu gwlad am ail dymor Arlywyddol.

Y cyn-Arlywydd Barack Obama yw'r diweddaraf ymysg nifer o leisiau amlwg ymysg y Democratiaid i ddatgan ei bryderon am obeithion Mr Biden o lwyddo yn erbyn Donald Trump am yr eildro.

Mae llawer yn credu nad yw cof Mr Biden cystal ag yr oedd a bod hynny'n reswm i bryderu.

Yng nghwmni arweinwyr gwledydd NATO ac ystafell o newyddiadurwyr, fe wnaeth Mr Biden gyflwyno arlywydd Wcrain, Volodymyr Zelensky fel "yr Arlywydd Putin", sef arlywydd Rwsia mewn cynhadledd yn ddiweddar.

Mae Wcráin wedi bod mewn rhyfel gyda Rwsia ers mis Chwefror 2022. 

Fe wnaeth gywiro ei hun yn gyflym ar ôl hynny.

Mae Nancy Pelosi hefyd ymysg nifer o Ddemocratiaid blaenllaw sydd mae'n debyg wedi galw ar Mr Biden i roi'r gorau i'w ymgyrch er mwyn i ymgeisydd arall o rengoedd y blaid gamu i mewn i'r ras.

Llun: Brendan Smialowski / Wochit

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.