Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: 'Dyfalbarhau' wedi 30 mlynedd o ddysgu Cymraeg
Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: 'Dyfalbarhau' wedi 30 mlynedd o ddysgu Cymraeg
“Dyfalbarhau yw beth sydd fwya’ pwysig.”
Dyma neges syml Antwn Owen-Hicks o Dredegar yn dilyn degawdau o ddysgu’r Gymraeg, ag yntau’n un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol enwau’r unigolion a gyrhaeddodd y rhestr fer ym mis Mehefin, gyda Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth hefyd yn cyrraedd y brig.
Yn ystod yr wythnos hon mae Newyddion S4C yn cwrdd â’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Yn wreiddiol o Bontllanfraith yng Nghwm Sirhowy, mae Antwn Owen-Hicks wedi bod ar ei daith o ddysgu Cymraeg ers dros 30 mlynedd.
Fe ddechreuodd dysgu yn ddyn ifanc 20 oed wedi iddo ddychwelyd i Gymru ar ôl astudio gradd yn Llundain, gan ddweud bod awydd ganddo i ddysgu mwy am ei ddiwylliant.
Bellach yn 58 oed, dywedodd mai “dyfalbarhau” i ddefnyddio’r iaith oedd y peth pwysicaf iddo wrth ddysgu.
“Mae’r cyrsiau yn rhoi’r blociau adeiladau i chi," meddai.
“Ond trwy ddefnyddio beth sy’ gyda chi, fel jyst dechrau cael sgwrs gyda phobl hyd yn oed os ‘dych chi ddim yn deall popeth, neu os mae rhaid defnyddio geiriau Saesneg.
“Mae’n rili bwysig i ymarfer, ymarfer, ymarfer a jyst dyfalbarhau.”
'Adfywio'r iaith'
Antwn Owen-Hicks yw’r cyntaf mewn pedwar cenhedlaeth i siarad Cymraeg yn ei deulu. Ei hen fam-gu oedd y diwethaf i siarad yr iaith.
Ond bellach, Cymraeg yw iaith y cartref iddo ef a’i wraig Linda o Wrecsam, yn ogystal â’u merch 27 oed, Seren.
Ac mae’n hynod o falch o fod wedi adfywio’r Gymraeg yn ei deulu, meddai.
“Mae’n ffantastig i weld bod yr iaith wedi dod 'nôl i’r teulu, teulu ni, gyda thoriad eitha’ hir dros falle pedwar cenhedlaeth.
“Ond mae’n bosib i adfywio’r iaith yn y teulu.”
'Newid bywyd'
Mae Mr Owen-Hicks wedi treulio y rhan fwyaf o’i yrfa ym myd y celfyddydau, ac mae cerddoriaeth wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr iddo ef ar ei daith o ddysgu Cymraeg, meddai.
Yn gerddor profiadol, mae’n aelod o’r band gwerin Carreg Lafar ac mi fyddan nhw’n perfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst wedi iddyn nhw ddychwelyd i’r llwyfan ar ôl seibiant 7 mlynedd o hyd.
Fel dyn ifanc oedd yn hoff o gerddoriaeth gwerin iaith Saesneg, mi oedd yn awyddus i ddarganfod “beth oedd y traddodiad Cymreig.”
“Es i ati i ddechrau darganfod grwpiau fel Yr Hwntws, Plethyn, Ar Log. ’Odd hwnna yn rili ysbrydoli fi – gyda cerddoriaeth fy hunain hefyd wrth gwrs – ond hefyd i fynd ar y daith i ddysgu’r iaith.”
Mae’n benderfynol o ddefnyddio cerddoriaeth i ysbrydoli pobl eraill i ddysgu’r iaith – yn lleol a thramor.
Ers 2008, mae wedi bod yn gyfrifol am drefnu taith i grwpiau Cymraeg cael fynd i’r Ŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient yn Llydaw.
Ac yn lleol mae’n cydweithio gyda mudiad TRAC Cymru yn Rhondda Cynon Taf drwy ddysgu pobl i greu caneuon gwerin gyfoes.
Mae hefyd yn cydweithio’n aml gyda Theatr Soar ym Merthyr Tudful ac yn trefnu nifer o gigiau gwerin yn lleol gyda chymorth ei wraig.
“O’n i ddim yn disgwyl teithio gyda’r band, gweithio yn yr iaith Gymraeg, trefnu pethau ar gyfer gŵyl ryngwladol yn Llydaw," meddai.
“Felly mae fy holl fywyd fi wedi newid ers dechrau dysgu'r iaith.”