Y gwasanaethau brys yn ymateb i dân mewn hen ysgol yn Llandysul
Y gwasanaethau brys yn ymateb i dân mewn hen ysgol yn Llandysul
Galwyni o ddŵr yn cael eu chwistrellu ar safle hen ysgol yn Llandysul, oedd e'n wenfflam bore 'ma.
Fe gafodd saith criw eu galw yma i geisio diffodd y fflamau.
"Ges i text message bore 'ma yn gweud bod lot o dân i'w gael... "..yn yr hen ysgol yn Llandysul.
"Dethon ni mewn i Landysul i wneud gwaith... "..achos o'n i'n gweithio o flaen yr ysgol bore 'ma.
"Roedd llwyth o fire brigades a police... "..a llwyth o fŵg, tân, fflamau a gwres yn dod off e.
"Oedd e'n crazy gwres!"
"Cymylau du o fŵg yn chwythu lan i'r teiau lan fan'na.
"Mae smell y mŵg yn dal yn y tŷ... "..pob tŷ oedd a ffenestri ar agor.
"O'n i 'di bod mas o'r tŷ tua 8.45yb.
"O'n i'n gweld y tân yn dod mas drwy'r to ar y pryd." "
Dechreuodd y tân tua 7.30yb.
"O'dd y ferch yn mynd a'r grandaughter i'r childminder... "..next door but one a pryd 'ny oedd y tan wedi dechrau.
"Ysgol wedi cau ers 1971.
"Mae'n shame wedyn."
Fel gallwch chi weld, mae to'r adeilad wedi dymchwel yn llwyr oherwydd y fflamau.
Mae swyddogion yn parhau i ymateb i'r tân yma ar safle'r hen ysgol yn Llandysul.
Yn ddiweddar fe ddaeth i'r amlwg fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel safle i gynhyrchu canabis wedi i'r heddlu ddod o hyd i 1,500 o blanhigion gwerth £2 filiwn yn yr hen ysgol.
Fe blediodd dau ddyn yn euog rhai diwrnodau yn ôl i gyhuddiadau yn ymwneud â chyffuriau.
Ond gwres y tân ac arogl y mŵg sy'n denu sylw'r pentref heddiw. A'r ymgais i daclo'r difrod yn parhau.