Gwylan yn nythu yn costio bron i £500,000 i gyngor dinas
Mae gwylan wedi achosi oedi i waith dymchwel yng nghanol dinas Casnewydd gan gostio bron i £500,000 i gyngor y ddinas.
Roedd adroddiad gwariant cyfalaf Cyngor Dinas Casnewydd yn dangos bod gwariant dymchwel y ganolfan hamdden ar Ffordd Brynbuga £460,000 yn uwch na'r amcangyfrif gwreiddiol.
Dywedodd y cyngor mai "gwylan yn nythu" oedd yn gyfrifol am yr oedi wrth chwalu'r adeilad, lle'r oedd enwau cyfarwydd ym myd cerddoriaeth gan gynnwys David Bowie ac Elton John wedi perfformio, er mwyn adeiladu cwmpws coleg.
O ganlyniad roedd "costau ychwanegol wedi gorfod cael eu talu, uwchben y pris a gytunwyd yn wreiddiol".
Cafodd tua 40 diwrnod o waith ei golli ers cychwyn y gwaith dymchwel ym mis Ebrill 2023, a hynny oherwydd yr wylan, meddai'r cyngor.
Mae'r gwaith dymchwel bellach wedi ei gwblhau ac yn ei le bydd campws Coleg Gwent a fydd yn cynnig "awyrgylch dysgu o'r radd uchaf i bobl Casnewydd, mewn lleoliad sydd yn hawdd cael mynediad iddo o bob rhan o'r ddinas".
Yn ôl adroddiad y cyngor, “bydd y gorwariant yn cael ei ariannu gan Goleg Gwent" a chyfraniad gan y cyngor ym mlwyddyn ariannol 2023/24.
"Er bod yr union gostau dal i gael eu pennu, mae cytundeb rhannu cost yn ei le gyda Choleg Gwent," meddai llefarydd.
'Lle diogel i bawb'
Mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu canolfan hamdden newydd wedi i'r hen un cael ei dymchwel er mwyn adeiladu'r campws newydd.
Bydd yn cael ei leoli ar ben arall Ffordd Brynbuga.
Bydd y ganolfan hamdden newydd yn cynnwys pwll nofio a stiwdio ffitrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod nhw'n "canolbwyntio ar sicrhau canolfan hamdden a lles i Gasnewydd".
Maen nhw'n gobeithio cwblhau'r gwaith adeiladu o fewn 18 mis - gan obeithio y bydd unrhyw wylanod yn cadw draw.