Newyddion S4C

Gofal plant Cymru dros wyliau'r haf: 'Cost wythnosol yn uwch na Lloegr a'r Alban'

19/07/2024
Gofal plant

Cymru sydd â'r gost wythnosol uchaf o ran gofal plant yn ystod gwyliau, yn ôl ymchwil newydd.

Daw'r ymchwil wrth i ysgolion ar draws Cymru dorri i fyny ar gyfer chwech wythnos o wyliau'r haf ddydd Iau a Gwener.

Mae'r ymchwil gan elusen Coram Family and Childcare yn awgrymu mai Cymru sydd â'r pris wythnosol uchaf o safbwynt lle mewn clwb gwyliau yn y DU, sef £209, o'i gymharu â Lloegr (£173) a'r Alban (£167). 

Mae hyn yn gynnydd o 15% o gymharu â'r flwyddyn diwethaf. 

Dywedodd Ellen Broome, rheolwr gyfarwyddwr yr elusen: "Mae gormod o deuluoedd yn pryderu am ddechrau gwyliau'r haf.

"Yn hytrach nag amser i deuluoedd i orffwyso, chwarae a mwynhau gyda'i gilydd, mae nifer o rieni yn poeni am sut i dalu am ofal plant yn ystod y gwyliau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr: "Mae cael mynediad at ddarpariaeth gofal plant yn ystod y gwyliau yn hanfodol i deuluoedd ac yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plant."

Drytach

Ychwanegodd yr ymchwil fod cost gofal plant yn ystod gwyliau yng Nghymru dair gwaith yn ddrytach na chost clybiau ar ôl ysgol. 

Byddai gofal plant yn ystod gwyliau am chwe wythnos yn costio £840 yn fwy na darpariaeth ar gyfer chwe wythnos o ofal ar ôl ysgol. 

Er hyn, mae'r ymchwil yn awgrymu fod clybiau gwyliau yng Nghymru yn fwy tebygol o fod ar agor drwy'r dydd (77%) nag yn yr Alban (71%) a Lloegr (42%). 

Mae'r ymchwil hefyd yn codi pryderon am argaeledd gofal plant yng Nghymru.

Dywed yr elusen nad oes gan nifer sylweddol o awdurdodau lleol yng Nghymru "y data i ganiatáu iddynt ateb os oes yna ddigon o ofal plant yn ystod y gwyliau ar gyfer eu hardal eleni".

Fe wnaeth 10% o awdurdodau lleol nodi fod yna lefel ddigonol "ymhob ardal" ar gyfer plant pedair i saith oed, wyth i 11 oed a rhieni sy'n gweithio llawn amser.

Ni wnaeth unrhyw awdurdod lleol adrodd fod ganddyn nhw ddigon o ofal plant yn ystod gwyliau "ymhob ardal" ar gyfer unrhyw un o'r categorïau eraill.

Ychwanegodd yr ymchwil fod hyn "yn fwyaf nodedig ar gyfer darpariaeth i blant 12 i 14 oed (43%) a phlant mewn ardaloedd gwledig (41%)". 

Mae'r ymchwil wedi cael ei wneud ar sail arolygon gan awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban rhwng Ebrill a Mehefin. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.