Newyddion S4C

1,500 milltir mewn wyth diwrnod: Her seiclo y cyflwynydd Huw Owen

19/07/2024

1,500 milltir mewn wyth diwrnod: Her seiclo y cyflwynydd Huw Owen

Mae’r cyflwynydd teledu Huw Owen yn edrych ymlaen at fwy o heriau eithafol ar ôl seiclo bron i 1,500 o filltiroedd mewn ychydig dros wythnos.

Roedd Huw, o Lanberis, yn un o 165 o bobl a ddechreuodd y ras seiclo wltra Pan Celtic ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf.

Y nod oedd teithio o amgylch Ynys Manaw, cyn seiclo i fyny arfordir Cumbria a gorllewin yr Alban – a hynny mor gyflym â phosib.

1,467 o filltiroedd yn ddiweddarach, roedd y beicwyr yn cyrraedd terfyn y ras yn Inverness.

“Oedd o’n brofiad anhygoel, o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Huw.

“Ti’n cyfarfod pobol sydd efo’r un agwedd a chdi a doedd o ddim yn teimlo’n anodd – ti’n setio pace, a ‘na chdi, dyna di pace chdi wedyn am y dyddiau nesa.”

Image
Huw Owen
Roedd yr amodau yn garw ar adegau yn ystod y ras Pan Celtic

Annibynnol

Roedd hon yn ras lle roedd pob unigolyn yn gwbl annibynnol; roedd rhaid cario’r holl offer ar gefn y beic, trwsio unrhyw broblemau mecanyddol ac wrth gwrs, dilyn y llwybr cywir.

Wrth i’r ras neidio o ynys i ynys ar hyd arfordir gogledd gorllewinol y DU, roedd rhaid ceisio dal fferiau ar yr amseroedd cywir.

Ychwanegodd Huw: “I gychwyn y ras, naethon ni time trial (ras yn erbyn y cloc) dros nos, yn dechrau tua 19.00 a wedyn gorffan rhwng tua 03.00 a 08.00, cyn dal y fferi bora wedyn i Heysham [Sir Gaerhirfryn].

“Odd o’n olygfa rhyfeddol ar y llong achos oedd na ryw 300 o reidwyr i gyd yn eu sleeping bags, yn cysgu yn bob twll a chornel o’r fferi. 

“Odd pawb just yn cramio bob eiliad o gwsg ag oeddan nhw’n gallu, lle bynnag oeddan nhw’n gallu.

“Neshi ddechrau’r ras yn eitha ara deg achos doni erioed di neud o o’r blaen a doni’m yn gwbod be o'dd pace fi. So on i’n reidio drw’r dydd, wedyn cael y bivvy bag allan i gael pedwar awr o gwsg. Wedyn reidio drwy’r diwrnod wedyn, bivvy bag allan, pedwar awr o gwsg eto. 

“Neshi sylwi wedyn, os dwi’n reidio 360 o filltioedd rhwng 06.00 yn bora un diwrnod a 18.00 yn y nos y diwrnod wedyn, na’i neud hi i ddal y fferi ola drosodd i Mull. 

“So neshi reidio 240 o filltiroedd, gal dwy awr o gwsg wedyn, a wedyn cario ymlaen, a neshi neud y fferi ‘na.”

Image
Beic Huw
Roedd yn rhaid i Huw wneud yr her gyda phwysau pedwar bag ar gefn ei feic

'Nodio off ar y beic'

Yn ogystal â’r diffyg cwsg a'r amodau garw ar adegau, yr angen i barhau i fwyta ac yfed yn gyson oedd ar feddwl Huw yn aml yn ystod yr her.

“Sa chdi ddim yn coelio faint neshi fwyta. Oeddwn i’n bwyta Snickers bob hannar awr, ac wedyn stopio am bryd llawn bob pedwar awr.

“Ti’n gorfod just constantly rhoi bwyd i lawr gwddw’ chdi, ag os oedda chdi’n neud huna, oedd y coesau dal yn mynd i weithio.

“Blinder sy’n dal i fyny efo chdi, hwnna sy’n bach yn tough, yn enwedig pan tua diwedd y ras, oni’n gweld fy hun yn nodio off ar y beic.

“Weithia oni’n gorfod tynnu fyny ar ochr lôn a just isda i lawr am ryw 10 munud i gal micro nap, wedyn deffro a mynd eto. 

"Ma huna’n cadw chdi fynd am ryw awr, awr a hannar, a wedyn micro nap arall. Fela ma’i. Dyna di natur fath yma o seiclo."

Image
Huw owen
Fe ddringodd Huw 26,000 metr o uchder yn ystod y daith – dros dair gwaith uchder Everest

Dros yr wyth diwrnod, fe wnaeth Huw seiclo pellter cyfystyr â seiclo o John o'Groats i Land’s End, a hanner ffordd yn ôl.

Yn ogystal, fe ddringodd 26,000 metr o uchder – dros dair gwaith uchder Everest.

Ychwanegodd: “Pan neshi orffan y ras, oni ‘tha – ‘dwni’m be i neud efo fy hun rŵan’. Ond neshi joio bob eiliad ohono fo de, hyd yn oed y diwrnodau oni’n stryglo."

Image
Golygfeydd godidog ar hyd y ffordd
Roedd golygfeydd godidog ar hyd y ras, medd Huw

Yr her nesaf

Er ei fod yn edrych ymlaen i ddychwelyd i seiclo yn ei filltir sgwâr eto gyda Chlwb Beicio Egni Eryri, bydd sylw Huw yn troi at yr her nesaf – y ras Trans Pyrenees ar hyd y ffin fynyddig rhwng Sbaen a Ffrainc.

“Rŵan dwi di gorffan y Pan Celtic, dwi’m yn siŵr be i neud efo’n hyn, ella na’i ymlacio am gwpwl o ddiwrnodau ond dwi’n siŵr fyddai nol ar y beic cyn bo hir," meddai.

“Dwi’n mynd ymlaen i neud y Trans Pyrenees rŵan ym mis Medi so dwi’n gobeithio bob dim dwi di ddysgu yn y ras yma, dwi am drio mynd hwnna i gyd fewn i’r ras nesa na.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.