Newyddion S4C

Keir Starmer yn gobeithio 'dechrau perthynas agosach' gydag Ewrop

18/07/2024
Syr Keir Starmer ym Mhalas Blenheim

Bydd Syr Keir Starmer yn addo "dechrau perthynas agosach" gydag Ewrop mewn uwchgynhadledd yn Lloegr ddydd Iau.

Dyma'r tro cyntaf i'r Prif Weinidog newydd gynnal Uwchgynhadledd y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd (EPC) a fydd yn canolbwyntio ar y rhyfel yn Wcráin eleni.

Mae disgwyl i o leiaf 45 o arweinwyr Ewropeaidd fynychu'r digwyddiad ym Mhalas Blenheim yn Sir Rydychen ar gyfer cyfarfod o’r Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd (EPC), a gafodd ei sefydlu ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin ddwy flynedd yn ôl.

Mae holl wledydd Ewrop - gan eithrio Rwsia a Belarws - wedi cael eu gwahodd i'r uwchgynhadledd.

Bwriad y digwyddiad yw annog cefnogaeth i'r Wcráin, lle mae disgwyl i'r ymladd ddwysau dros yr haf.

Cyn yr uwchgynhadledd, fe wnaeth Syr Keir addo y byddai'r DU yn “chwarae rôl fwy gweithredol ar lwyfan y byd”.

Dywedodd: “Bydd yr EPC yn tanio’r gwn cychwyn ar agwedd newydd y llywodraeth at Ewrop, un a fydd nid yn unig o fudd i ni nawr, ond i genedlaethau i ddod, o ddatgymalu’r gweoedd smyglo pobl sy’n masnachu pobl ledled Ewrop, i sefyll i fyny i weithredoedd barbaraidd Putin yn Wcráin ac ansefydlogi gweithgareddau ledled Ewrop.”

Bydd mwy o ymdrechion Ewropeaidd i fynd i’r afael â gangiau sy’n smyglo pobl, yn ogystal â phenderfyniadau lloches gyflymach, gyda 100 o staff y Swyddfa Gartref yn cael eu hadleoli i helpu'r rhai oedd yn aflwyddiannus gyda'u cais am loches i ddychwelwyd i’w mamwlad.

 


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.