Newyddion S4C

Dim lle i'r pedwar wnaeth ymddiswyddo yng nghabinet newydd Vaughan Gething

17/07/2024

Dim lle i'r pedwar wnaeth ymddiswyddo yng nghabinet newydd Vaughan Gething

Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi ad-drefnu ei gabinet nos Fercher, wedi i bedwar aelod ohono ymddiswyddo fore Mawrth.

Daw'r ad-drefnu wedi i Vaughan Gething gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo ddydd Mawrth, a hynny ar ôl i Jeremy Miles, Mick Antoniw, Julie James a Lesley Griffiths gamu o'r neilltu gan alw arno i fynd.

Mae disgwyl i Vaughan Gething barhau yn Brif Weinidog nes i'r Blaid Lafur ddewis olynydd iddo, ac felly mae wedi dewis cabinet newydd er mwyn cadw Llywodraeth Cymru i fynd dros dro.

Newidiadau

Jack Sargeant AS dros Alun a Glannau Dyfrdwy yw’r unig wyneb newydd yng nghabinet newydd Vaughan Gething, ag yntau wedi’i benodi’n Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. 

Hannah Blythyn AS oedd yn y rôl honno cyn iddi gael ei diswyddo yn dilyn honiadau ei bod wedi rhannu gwybodaeth â’r wasg oedd yn ymwneud â sgwrs am y cyfnod Covid. 

Mae Sarah Murphy AS wedi bod yn y rôl honno ers diswyddiad Hannah Blythyn ym mis Mai. Mae hithau bellach wedi’i phenodi’n Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. 

Jayne Bryant AS oedd yn y rôl honno yn flaenorol, ac mae hi bellach wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. 

Bydd nifer o weinidogion eraill y cabinet yn cadw eu swyddi, gan gynnwys:

  • Rebecca Evans AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
  • Huw Irranca Davies yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Lynne Neagle AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Eluned Morgan AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Ken Skates AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
  • Dawn Bowden AS yn Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol.

Dyw rôl y Cwnsler Cyffredinol heb ei lenwi hyd yma, wedi i Mick Antoniw ymddiswyddo ddydd Mawrth.

Jane Hutt AS yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip gan gadw ei rôl blaenorol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.