Môn mam Cymru? Yr ynys yw 'un o'r llefydd gorau i fod yn ferch yn y DU'

18/07/2024
Dynes ar Ynys Mon

Mae Ynys Môn wedi ei henwi fel un o’r ardaloedd gorau i ferched a menywod fyw yn y DU.

Cafodd Ynys Môn ei henwi fel y drydedd ardal orau i fenywod a merched fyw yn y DU gan elusen er lles plant a merched Plan International UK, ar ôl cynnal arolwg.

Roedd y gwaith ymchwil yn ystyried nifer o ffactorau yn ymwneud a lles merched a menywod yn yr awdurdod lleol ble yr oeddwn nhw’n eu byw – gan gynnwys pa mor ddiogel y maen nhw’n eu teimlo yn cerdded ar hyd y ffordd yn ystod y nos, faint o blant oedd yn byw mewn tlodi yno, a’r bwlch cyflog. 

Fe gafodd pob awdurdod lleol sgôr allan o 100 yn seiliedig ar y ffactorau yma, gydag Ynys Môn yn ennill sgôr o 77.98. 

Cafodd Wrecsam ei henwi fel yr ail ardal fwyaf ffafriol i fyw fel merch yng Nghymru gyda sgôr o 76.74, Sir Dinbych yn drydedd gyda sgôr o 76.23, Ceredigion yn bedwaredd gyda sgôr o 76.01, a Sir y Fflint yn bumed gyda sgôr o 75.99. 

Dwyrain Swydd Dunbarton yn yr Alban daeth yn gyntaf yn y DU gyda sgôr o 79.74, a Sutton yn ne Llundain daeth yn ail gyda sgôr o 78.63.

'Angen gwella'

Ond mae’r elusen yn awyddus i nodi fod yna beth ffordd i fynd er mwyn cefnogi hawliau merched, gan nad oedd unrhyw awdurdod lleol ar hyd y DU wedi ennill sgôr yn uwch na 80 o 100. 

Er gafodd Ynys Môn ei henwi’n un o’r llefydd gorau i fyw fel menyw yn y DU, ond roedd 11% o ferched a menywod yno yn dweud eu bod yn teimlo’n “hynod o anniogel” yn cerdded ar ben eu hunain yn ystod y nos neu yn y tywyllwch. 

“Mae ‘na le amlwg i wella gan bob cyngor a chymuned o ran cefnogi hawliau merched,” meddai’r elusen. 

Yng Nghymru, Castell-nedd Port Talbot gafodd ei henwi fel yr ardal “mwyaf heriol” i ferched a menywod fyw ynddi.

Roedd Caerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful a Sir Benfro hefyd ymhlith y llefydd gwaethaf i fyw yng Nghymru ar gyfer menywod a merched. 

Dywedodd prif weithredwr Plan International UK, Rose Caldwell, fod menywod “wedi blino” o glywed “geiriau gwag” ac maen nhw am weld “newid go iawn” yn eu bywydau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.