Sir y Fflint: Tri unigolyn ar feiciau modur 'wedi ymosod ar ddyn a dynes'
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl adroddiadau fod tri unigolyn ar feiciau modur wedi ymosod ar ddyn a dynes yn Sir y Fflint.
Daw'r apêl wedi'r ymosodiad honedig ar ddyn a dynes ar Ffordd Holway yn Nhreffynnon rhwng 14:20 a 14:30 ddydd Sul 14 Gorffennaf.
Roedd y dyn a'r ddynes yn gyrru ar hyd y ffordd pan ymosododd y gyrwyr beiciau modur arnynt ar ôl iddyn nhw gamu allan o'u car.
Dywedodd PC Eleri Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi'n apelio i unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac wedi gweld y digwyddiad, neu i unrhyw un sydd â lluniau teledu cylch cyfyng i gysylltu gyda ni."
Fe allwch chi gysylltu gyda'r heddlu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 24000615325.