Lansio bwydlen arbennig i annog pobl i gymryd y trên i’r Eisteddfod ym Mhontypridd
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio bwydlen Gymreig arbennig i annog pobl i deithio ar y trên i'r Eisteddfod Genedlaethol.
Daw wrth i drefnwyr yr ŵyl annog pobl i deithio i’r maes ym Mhontypridd ym mis Awst ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach nag mewn car gan rybuddio y bydd y ffyrdd o amgylch y dref yn brysur iawn.
Bydd bwydlen arbennig ar gael yng ngherbydau dosbarth cyntaf trenau Trafnidiaeth Cymru a bydd yna hefyd ‘Byrger yr Eisteddfod’ a detholiad o ddiodydd a gynhyrchir yng Nghymru ar gael ar y cerbydau safonol.
Bydd y bwyd ar gael ar rai o’r gwasanaethau sy'n teithio rhwng gogledd a de Cymru.
Dywedodd Lowri Joyce, Arweinydd Strategol y Gymraeg yn TrC: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio'r fwydlen Gymreig arbennig hon ar ein trenau i ddathlu'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Fel brand cwbl ddwyieithog, mae TrC eisiau dathlu ein hiaith, diwylliant a phopeth mae'n ei olygu i fod yn Gymraeg.
“Rydym yn bartner allweddol yn y digwyddiad eleni a byddwn yn annog y rhai sy'n teithio i'r Maes i chwilio am opsiynau teithio cynaliadwy ac os cewch gyfle, rhoi cynnig ar ein bwydlen arbennig."
Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi pwysleisio bod yr ŵyl yn cael ei chynnal ynghanol tref eleni, a fydd yn gwneud cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn haws ond mewn car yn fwy heriol.
“Mae disgwyl i'r ffyrdd o gwmpas ardal Pontypridd fod yn brysurach na'r arfer yn ystod yr wythnos,” medden nhw.
“Rydyn ni'n eich cynghori chi i beidio â gyrru i mewn i ganol y dref. Os ydych chi'n byw neu'n aros yn lleol, beiciwch, cerddwch neu defnyddiwch y bysiau lleol.”
Mae rhagor o gyngor ar gyrraedd maes yr Eisteddfod fan hyn.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ar Barc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.