Beirniadu Betsi Cadwaladr wedi i ddyn oedd â chanser fethu a chael cynnig llawdriniaeth
Mae adroddiad wedi beirniadu un o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi i ddyn oedd yn dioddef â chanser y prostad fethu a chael cynnig llawdriniaeth.
Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gallai'r dyn fod wedi gwella o gael cynnig y llawdriniaeth gan Ysbyty Maelor Wrecsam, ond roedd un o'r meddygon o’r farn fod ei ganser wedi ymledu.
Ond roedd ansicrwydd ynghylch a’i gyflwr, ac oherwydd hynny dylai’r unigolyn, a enwir yn Mr B, wedi cael cynnig am lawdriniaeth, medd yr Ombwdsmon.
Roedd oedi “sylweddol” i’w driniaeth hefyd, ac ni lwyddodd yr ysbyty i ddarparu’r gofal oedd angen arno o fewn y 62 diwrnod targed rhwng y cyfnod o ddod o hyd i’w ganser a’i drin.
Roedd Mr B wedi penderfynu talu am fiopsi yn breifat yn sgil yr “oedi annerbyniol” hyn.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Michelle Morris wedi dweud fod triniaeth Mr B wedi peri “pryder gwirioneddol” iddi, gan mai dyma’r trydydd tro i’w swyddfa dynnu sylw at bryderon ynghylch darpariaeth y Bwrdd Iechyd o driniaeth ar gyfer canser y prostad dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Pwyso am newid’
Daw’r adroddiad wedi i Mr B fynd i’r Adran Frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Ebrill 2022 am na allai basio wrin.
Roedd rhai elfennau o’i ofal yn briodol yn glinigol, gan gynnwys y driniaeth a gafodd pan aeth i’r Adran Frys, ond roedd methiant o ran peidio â chynnig llawdriniaeth i’w wella.
Dywedodd Michelle Morris ei bod yn pryderu bod y gwasanaeth wroleg, yn enwedig yn achos canser y prostad, yn parhau i fod yn broblem i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae bellach wedi dweud ei bod yn “pwyso” ar y Bwrdd Iechyd i ymrwymo’n llawn i newid a gwella “fel na fydd yn rhaid i bobl gysylltu â fy swyddfa eto gyda phryderon tebyg".
“Roedd fy rhagflaenydd wedi cael sicrwydd gan y Bwrdd Iechyd ei fod yn mynd i’r afael â’r broblem,” meddai.
“Fodd bynnag, mae’r tebygrwydd rhwng y pryderon yn y gŵyn hon a rhai blaenorol yn gwneud i mi amau a yw’r camau mae’r Bwrdd Iechyd wedi’u cymryd wedi bod yn effeithiol i wella’r gwasanaeth.”
Ymddiheuro
Mae’r Ombwdsmon bellach wedi argymell y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymddiheuro i Mr B a’i wraig Mrs B, gan dalu £6,850 iddynt er mwyn ad-dalu’r costau triniaeth, yn ogystal a’r “anghyfiawnder” a achoswyd i Mr B, ac i gydnabod yr amser a’r drafferth y bu'n rhaid i Mrs B fynd i wneud cŵyn ar ei ran.
Mi fydd yr Ombwdsmon hefyd yn rhannu ei hadroddiad ag Arolygiaeth Iechyd Cymru er mwyn iddynt ei ystyried wrth gynllunio eu gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.
Dywedodd prif weithredwr y Bwrdd Iechyd, Carol Shillabeer ei bod yn “ymddiheuro’n ddiffuant” i Mr a Mrs B ar ran y Bwrdd am y methiannau yng ngofal Mr B, ac am adael i’w ofal “gwympo dan y safon a disgwylir.”
“Rydym yn anfon llythyr o ymddiheuriad yn uniongyrchol at Mr a Mrs B, a hoffwn roi gwybod iddyn nhw ein bod wedi ymrwymo i ddysgu o’u profiad nhw.
“Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn rhai meysydd… ac rydym yn cymryd camau allweddol i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd fel rhan o’n hymdrechion i wella ein gwasanaethau.”