Sir Benfro: Heddlu'n ymchwilio wedi i gerbyd wrthdaro â dau berson cyn gyrru i ffwrdd
Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty wedi i gerbyd wrthdaro ag ef a pherson arall yn ystod oriau mân y bore yn Hwlffordd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal ymchwiliad wedi i yrrwr y cerbyd yrru i ffwrdd o safle’r gwrthdrawiad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Ysgubor tua 2.00 fore Mercher.
Y gred yw mai fan lliw gwyn yw’r cerbyd dan sylw.
Dyw anafiadau’r dyn sydd wedi’i gludo i’r ysbyty ddim yn peryglu ei fywyd, medd yr heddlu.
Mae’r llu wedi dweud eu bod yn ceisio dod i hyd i’r gyrrwr a’i gerbyd, ac maen nhw’n apelio ar lygad-dystion neu unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod DP-20240717-024.
Llun: Google Maps