Newyddion S4C

Vaughan Gething: Prif Weinidog newydd yn ei le ‘yn gynnar yn yr hydref’

17/07/2024

Vaughan Gething: Prif Weinidog newydd yn ei le ‘yn gynnar yn yr hydref’

Bedwar mis i'r diwrnod ers i Vaughan Gething gael ei ethol yn arweinydd ar Lafur Cymru mae'r blaid bellach yn chwilio am ei olynydd.

Ganol bore, daeth y cyhoeddiad bydd Mr Gething yn ildio'r awenau.

"I have, this morning, taken the difficult decision... "..to begin the process... "..of stepping down as the leader of Welsh Labour... "..and as a result, the First Minister."

Ar ôl misoedd o fod o dan bwysau fe ddaeth cyhoeddiad Vaughan Gething yn y diwedd ar ôl i bedwar aelod blaenllaw o'i lywodraeth gyhoeddi o fewn munudau i'w gilydd y bore 'ma eu bod nhw'n ymddiswyddo.

Roedd Jeremy Miles gwrthwynebydd Mr Gething yn y ras arweinyddiaeth ddiweddar yn un ohonyn nhw ac mi roedd y tri arall wedi cefnogi Mr Miles yn yr ornest honno.

Wrth alw ar Mr Gething i roi'r gorau iddi dywedodd y pedwar eu bod nhw o'r farn na all pethau barhau fel ag y maen nhw.

Yn ei lythyr e at y Prif Weinidog dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr economi, Jeremy Miles ei bod hi'n hanfodol ein bod yn dechrau trwsio'r difrod ar unwaith.

"Rydw i wedi dod i'r casgliad, yn anffodus... "..na all hyn ddigwydd o dan eich arweinyddiaeth."

Roedd sylwadau tebyg gan yr Ysgrifennydd Tai, Julie James a'r Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw bod yn rhaid iddo gynghori Mr Gething nad oedd yn credu allai barhau fel Prif Weinidog.

Doedd Mr Antoniw ddim am wneud sylw wrth iddo ddymuno'n dda i'r convoy diweddaraf o gerbydau yn cludo nwyddau i Wcrain.

Roedd ambell un arall oedd yno yn barod i ymateb.

"Dydy'r Blaid Lafur ddim yn un unedig.

"Mae'n gyfnod anodd iddyn nhw.

"Fel gwrthblaid, rhaid i ni gario 'mlaen yn neud beth ni'n neud... "..i sicrhau bod ni'n cael y gorau i bobl yma yng Nghymru.

"Mae hwn yn gyfnod siomedig i'r Blaid Lafur a ni fel cenedl."

Oeddech chi wedi galw am ymddiswyddiad Vaughan Gething.

Ydych chi'n croesawu hyn?

"Ydw, i ddweud y gwir.

"Roedden i'n meddwl oedd e'n glir oedd e'n gorfod mynd."

"Dw i ddim yn gwneud cyfweliad heddi.

"Mae'r Prif Weinidog wedi dweud popeth sydd i ddweud heddi."

"This is quite a sad day.

"I genuinely feel sad... "..to see a colleague who's striven to do their very best in office... "..for the people of Wales... "..to take the courageous decision to say, I cannot unify the group... "..I cannot unify my ministers, and to step back.

"That's what I'm reflecting on at the moment."

Fe drodd y sylw wedyn at y Siambr ble'r oedd datganiad gan Vaughan Gething.

"Having been elected as the leader of my party in March this year... "..I had hoped that over the summer... "..a period of reflection, rebuilding and renewal... "..could take place under my leadership.

"I recognise now that that is not possible.

"It has been an extraordinary honour to do this job... "..even for a few short months."

Roedd yna gymeradwyaeth gan rai i'w ddatganiad cyn i Mr Gething wynebu arweinwyr y gwrthbleidiau yn sesiwn holi'r Prif Weinidog.

"Was it the acceptance of the £200,000 donation... "..to your leadership campaign... "..or was it your appointment of your leadership contender... "..and his leadership team to your cabinet... "..that ultimately cost you the role of First Minister?"

"I'm very clear about my own integrity.

"I'm clear about the reality that today has meant... "..that it's not possible to carry on."

"Mi oedd hi'n gwbl anochel.

"Prin iawn oedd y dyddiau oedd ganddo ar ôl.

"Y cwestiynau dros y £200,000.

"Ai agwedd e at hynny.

"Methu derbyn ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le."

Ar ôl i'r sesiwn ddod i ben, gadawodd Mr Gething y Siambr i fynd i gyfarfod â ffrindiau a chefnogwyr.

Mi fydd yn parhau fel Prif Weinidog ac arweinydd ar Lafur Cymru nes bod ei olynydd wedi ei benodi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.